Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE AUSTRALYDD: BHIF. 1.] IONAWB, 1889. [CÝF. III. fämiMm, ŵí. AEEEE Y BYD HWN, HEB EI GAMAEEEE. Y mae dyledswyddau Cristionogol yn orphwysedig ar bawb fel eu gilydd, o'r pen coronog i lawr hyd yr iselaf o fewn y tir. Eelly yn enwedig mewn cysylltiad â'r mater dan sylw: pe bae yn bosibl i holl ddynolryw ddarllen y llinellau hyn, gallesid dweyd wrth bob un "Tydi yw y gwr." Llawer sydd wecli ei ddweyd ar y mater hwn, yn gystal a materion ereill, mewn llawer dull a modd, a hyny gan ddyn- ion o feddyliau coethedig; ond er cymaint sydd wedi ei draethu árno, efallai mai nid anfuddiol i ninau fydclai ceisio ymwthio ychyclig i mewn i'w gynwys. Y mae yn ymddangos, yn ol yr agwedd foesol sydd ar y byd y. dydcliau hyn, mai ychydig iawn, mewn cymhariaeth, sydd yn gweled pwysigrwydd "arfer y byd, heb ei gamarfer:" neu, mewn geiriau ereill, "wneud y goreu o'r ddau fyd"—y byd gweledig hwn, a'r byd anweledig. Mae yr ymadrodd yna, " gwneud y goreu o'r ddau fyd," dybygid, yn taflu goleu ar y pa beth a feddylir wrth " arfer y byd hwn, heb ei gamarfer;" sef, gwneud y defnydd priodol o fendithion y bywyd hwn, ac ar yr un pryd ddarparu ar gyíer y dyfodol. Hyny yw, pan yr ydym yn dweyd fel hyn, nid ydym yn meddwl am ryw fonachod o bobl yn byw ar eu penau eu hunain mewn anialdiroedd, ac yn ymfoddloni ar droi pob peth at eu gwasanaeth eu hunain; ond dyn, pa le bynag y ceir ef—os mynir, meddylier am dano yn troi ynghanol cymdeithas yn un o'r trefycld mwyaf poblogaidd. Md yw y sefyllfa yna yn lleihau ei rwymedigaeth, ond yn hytrach yn ei chynyddu, yn enwedig os bydd Ehagluniaeth wedi ymddiried llawer o bethau y byd yma i'w ofal. Ee ddichon fod y sefyllfa yna yn ei osod dan fwy o demtasiwn i annghofio ei cldyledswydd; ond, f el y dywed yr apostol wrth ysgrifenu at y Corinthiaid, " Nid ymafiodd ynoch demtasiwn, ond un ddynol: eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna yn nghyda'r demtasiwn ddi- angfa hefyd, fel y galloch ei dwyn." Eelly nid yw dyn, pa bynag, mewn sefyllfa fel y gallo dclweyd, " Pwy o honoch a'm hargyhoedda i o bechod ?" Na, ni welodd y ddaear yma ond un clyn a allasai ddweyd y frawddeg yna, sef y dyn hwnw ag y mae pob dyn arall yn ddyledus am ei fodolaeth, y dyn Crist Iesu. Nid oeddym ar y cyntaf yn gwbl sicr pa un a oedd ein mater yn ysgrythyrol ai peidio, er ein bod yn