Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AÜSTRALYDD: EHIF. 7.] GrOEPHENAF, 1869. [CYI\ III. GWEDDNEWIDIAD YE ÁEGLWYDD IESU. YR AMGYLCHIADAU. GAN T PAECH. B. T. MILES, PLEASANT CREEK. Cof genyf weled dur gerfiad (steel engrcwing) o ddarlun ysplenydd o'r gweddnewidiad, gan yr enwog Eaeffaelle. Y mae ynddo gydgyfar- fyddiad o'r hyn gymerodd le ar y mynydd, ac, ar yr un pryd, wrth droed y mynydd—y cwbl yn gosod allan ardderchogrwydd y darlun, a dychymyg bywiog yr arlunydd—y mae mewn gwirionedd yn esbon- iad byw o'r amgylchiad tra rhagorol yma. Yno y canfyddir Crist yn ei weddnewidiad; Moses ac Elias, un ar y ddeau a'r llall ar yr aswy; a'r tri dysgybl yn eu lied-orwedd, fel pe newydd ddeffroi o gysgu, yn edrych, gan gysgodi eu llygaid â'u llaw oherwydd y disgleirdeb dwyfol, ar Grist, Moses, ac Elias; a'r lleill o'r dysgyblion wrth droed y myn- ydd, mewn llafur a lludded, yn ymdrechu yn erbyn eu gelynion ar y naill law, oblegid yr oedd "yr ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt;"* ac ar y llaw arall yn ceisio gwneuthur daioni, sef iachau un " âg ysbryd mud ynddo,"f "ac ni allent hwy ei iachau ef." % Yma y gwelwn y cyferbyniad (contrast) mwyaf rhyfeddol: Pedr, Ioan, ac lago ar y mynydd yn mwynhau y presenoldeb dwyfol, ac yn nghwmni dau ym- welydd nefol, sef Moses ac Elias; tra yr oedd y lleill druain wrth droed y mynydd, yn fawr eu helynt yn ceisio iachau y mud cythreulig. Yma dysgwn wers bwysig, mai heb Iesu ni allwn wneuthur dim,§ Y mae llawer o wahanol olygiadau wedi, ac yn bod ynghylch gwedd- newidiad yr Arglwydd Iesu. Heb fyned i'w holrhain, cyfeiriwn y dar- Uenydd ymchwilgar i waith y gwir enwog Dr. Lange.|| Ymddengys oddiwrth hanes y dysgyblion, eu bod o dan ddylanwad cyfeiliornadau peryglus ynghylch y Messiah a'i waith. Yr oeddynt yn tybied mai teyrnas ddaearol oedd teyrnas y Messiah, ac wrth gwrs mai cyfoeth ac anrhydedd daearol oedd gwobrau ei weision ef. Gwelir * Maro ix. 14. t Marc ix. 17. % Mat. xvii. 16. \ Y mae yn debyg mai y darlun crybwylledig' oedd yr olaf o gynyrchion yr enwog Raffaelle. " It is a touohing reflection that this picture was left unfmished by the paintcr unä carriedin his funeral proeession,"~-t)EAN Alfobd, D.D, || Comm. on Matthew, vol. ii.