Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

- . . -> h: \ YE ATJSTÎl^LYlDÌD: RHIF. 3.] MEDI, 1866. [CYF. I. EI LE I BOB PETH, A PHOB PETH TN EI LE. Peth hardd yw gweled pob peth yn ei le. Cawn arddangosiad perffaith o hyn yn y grëadigaeth ; mae arwynebiad y ddaear wedi ei drefnu yn y fath fodd fel ag i ddarparu ar gyfer bod- olaeth pob peth byw, yn y man mwyaf priodol iddo, yn gyd- naws a'i natur. Mae y pysgodyn yn chwareu yn ei elfen yn y dwfr—ar leth- rau y mynyddoedd a'r creigiau mae yr afr a'r ddafad, yn dringo ac yn ymborthi, tra ar y ddôl gerllaw y gwelir yr wyn yn ymbrancio : ac yn agos i'r parthau hyn y mae trigfanau'r gwar. Mewn parthau pellenig o'r ddaear, mewn coedwigoedd an- hygurch ac ogofeydd anhydraidd, y clywir y llew yn rhuo am ei ysglyfaeth, nes peri i'w holl israddolion ysglyfaethgar grynu wrth glywed ei lais ; a cherllaw y parthau hyn mae trigfanau'r anwar. Trown ein golygon i fynu at y cyrff nefol, ac edrychwn ar eu cysonderau hwy. Pan daflwyd hwy i'r gwagle syrthiasant dan ddylanwad attyniadol yr haul, ac y maent yn chwildroi o'i amgylch yn y cyflymdra cyfatebol i'w pellder oddiwrtho, gyda'r fath reoleiddiwch diwyrni, fel nad oes yr un o honynt wedi myned gymaint a thrwch y blewyn o'i le o hyny byd yn bresenol. Mae dyn yn ei le priodol ar y blaned ddaearol; mae cyfan- soddiad ei gorff yn cyfateb i'w sefyllfa. Pe bai amser a lle yn caniatau, gallem brofi mai y ddaear ydyw yr unig blaned y gallai fodoli arni; ond dichon, os cawn ffafr yn nhudalenau yr Australydd, gwnawn hyny rhywbryd eto; ond y mae yn ddigon amlwg fod dyn yn ei berthynas a natur yn ei le.