Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR AUSTRALYDD: RHIF. 3.] MBDI, 1867. [CTP. II. DAIONI RHAGLUNIAETH Un o'r ffyrdd goreu i gael golwg ar, neu synÌÊ^o, ddaioni Duw, ydyw cael teimlad o'r angen cyferbyniol. Wrth ëdrych ar ddaioni y Llywodraethwr mawr yn gyferbyniol âg angen dyn, ni raid myned neppell i chwilio am dano; gwelir ef mewn peth.au bychain a chynredin, fel y gelwir hwynt. Cawn fod Duw yn dangos mwy o'i ddaioni trwy rai cyfryngau • na'u gilydd, oblegid sonir am " olud ei ddaioni ;" ond eglur yw mai trwy " oludoedd ei ras " yr amlyga y graddau mwyaf aeuchaf o'i ddaioni—ei ewyllys da i ddyn, y pechadur. Dengys olud ei ddaioni trwy oludoedä ei ras. Ond gan mai daioni rhagluniaethol Duw yw pẃnc yr ysgrif hon, rhaid ymgadw ato; a thybiwn y bydd i ni cyn y rhoddwn yr ysgrif- bin o'n llaw, ysgrifenu digon i argyhoeddi pob dyn ystyriol fod "ei ddaioni Ef tuag atom ni yn fawr" yn mhethau bychain a chynredin bywyd. Pa olwg fuasai arnom pe yr attaliasai ein Cynaliwr ei ddaioni rhagluniaethol oddiwrthym ? Pwy a all ateb ? Yr ydym rywf odd yn hynod barod i golH golwg ar hyn ? Pe ddichon f od perffeithrwydd y peiriant yn peri i ni golli ein golwg ar y peirian- nydd. Wrth edrych ar y byd a'r oll sydd ynddo oddiar y safle hon, ymddengys yn rhan o'r peiriant rhagluniaethol. öosodwyd pawb a phob peth yn eu lleoedd priodol, a thra yno y mae pob symudiad a gweithrediad o'u heiddo yn gynyrchiol o ddaioni. Pfafria hyn y. dyb ofod pob dyn yn cael y fraint, tra yn cynyrchu i ddaioni yr oll, i gynyrchu ei ddaioni ei hun; ond y mae yn dra pheryglus iddo golli golwg ar yr Hwn a'i gosododd yn y cyfryw le, a cholli hefyd yr olwg ar yr 'amcan mawr wrth ei osod. Tuedd gref sydd ynom i briodoli pethau i ail achosion: gwneud duwiau o honom ein hunain a deddfau natur. Nid ydyw y gwahaniaeth sydd rhwng y rhai a allant fyw ar ddaioni Duw heb ei gydnabod yn ddiolchgar, a'r rhai a wadant Dduw, ond un o raddau yn unig: y mae un yn gwrthod cydnabod, a'r llall yn gwadu; daw y naül fel y llall o dan y cy- meriad o " anniolchgar a drwg." Er caniatau fod gweithredoedd dynion a deddfau natur megys olwynion yn mheiriant rhagluniaeth, y mae yn rhaid caniatau