Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

193 Y ZEBRA. Y mae Buffon yn dysgrifio y Zebra fel yr hardà- af o'r holl greaduriaid pedwartroediog. At lun a phrydferthwch y ceffyl, y mae yn chwanegu harddwch a chyfiymdra y carw. Y mae ei groen mor llyfn a sidan ; ac y mae y rhesi duon a gwỳnion gyda'r rhai y mae wedi ei addurno, wedi eu gosod gyda threfnusrwydd a gwychder , rhagorol. Y maent yn estyn nid yn unig dros ei gorph, ond dros ei ben, ei forddwydydd, ei goesau, ac hyd yn nod ei glustiau hefyd. Yn y fenyw y mae y rhesi yn ddû a gwỳn, bob yn ail; yn y gwryw y maent yn ddû a melyn; eithr bob amser o liw bywiog a gloyw. Y mae y Zebra gan mwyaf i'w weled yn RHir. 9. Medi, 1842. K