Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSOR I BIiENTYN, AM MAI, 1837. Rhif. 5.] PRIS CEINIOG. [Cyf. xiii. WESLEYAETH. III.—Am yr Ysbryd Glân. Y mae yr ysgrÿthyrau yn Uefaru am yr Ysbryd Glân fel person, 2 Pedr i. 2 ; canys dywedir ei fod yn llefaru, Heb. iii. 7; yn tystio, Act. v. 39; yn barnu cymhwysderau pethau, Act. xv. 28; yn ewyllysio, 1 Cor. xii. 11; yn eiriol trosom, Rhuf. viii. 26 ; ac yn ar- wain y íFyddloniaid'yn bersonol, Ioan xvi. 13. Y mae yn berson dwyfol, Act. v. 3,4, oblegid y mae y priodoliaethau dwyfol o hollwybod- aeth, 1 Cor. ii. 10, hollbresenoldeb, Salm cxxxix. 7, tragwyddoldeb, Heb. ix. 14, a hollalluogrwydd yn cael eu priodoli iddo, Luc i. 34, 35. Y mae hefyd weithredoedd dwyfol yn cael cu priodoli i'r Ysbryd Glân,