Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<g^=» FENGYLYD " / berffeíthío y saint, i <waith y <weinidogaeth, i adeilad corph Crist." Rhif io. Hydref 15, 1910. Yn ddiddadl, y pwnc sydd " Pentecost." yn dwyn bryd plant Duw yn fwyaf cyffredinol heddyw yw yr hyn a arwyddoceir gan benawd ein hysgrif. Nid yw yn bwno newydd i gredin- wyr effro, ond y mae mudiadau diweddar yn ei wthio ar ein hystyriaeth mewn gwedä newydd a chyda grym pwyslais newydd. Nid peth dieithr i ddarllenwyr Yr Efengylydd yw'r ffaith synfawr fod heddyw, bron yn mhob gwlad lle ceir Cristionogion, fil- oedd 0 gredinwyr yn Nghrist yn proffesu eu bod wedi derbyn yr Ysbryd Glân, yn yr un modd, a chyda'r un arwyddion ag y derbyniwyd Ef gan yr eglwys ar cldydd y Pentecost. Dywedant i'r Ysbryd syrthio arnynt fel ag y gwnaeth y pryd hwnw, ac iddynt "ddechreu llefaru â thafodau megis y rhoddes Efe iddynt ymadrodd." Tystiolaethant yn mhellach eu bod, fel canlyniad y " bedydd " hwn, yn gallu addoli Duw mewn modd newydd; fod eu calon ar dân gan gariad ato ; fod mawl yn byrlymu'n barhaus yn eu hysbryd ; fod y ÌBeibl yn Llyfr newydd iddynt; fod dwyn tystiolaeth i' Grist a'i waed yn beth haws nag erioed; ac, bod gobaith anniffoddadwy wedi ei gyneu'n eu calon fod yr Arglwydd Iesu i ymddangos eilwaith, a hyny, ar fyr- der. Nid canoedd, eithr amryw filoedd, wedi eu gwasgaru dros y byd,—yn benaf, yn America, Prydain, a'r Almaen,—yw nifer y rhai a ddygant y dystiolaeth uchod, ac, yn eu plith, nifer o blant anwylaf Duw a gwasanaethwyr aiddgaraf yr Arglwydd Iesu. Lledaenir y tân, nid yn unig trwy genadon, eithr hefyd trwy lenyddiaeth. Daeth ì'n llaw amrywiaeth'mawr o gyhoeddiadau oyf- nodol cysylltiedig â'r mudiad a'r oll o honynt yn gyhoeddiadau rhad i'r neb a u ceisio, ac yn cael eu cynal trwy roddion gwirfoddol cyfeillion y gwaith. Y mae y bywyd a'r yni sydd yn nglyn â'r gwaith yn dra arbenig, ao, fel canlyniad, yn hytrach na dangos arwyddion marw allan, y mae ei gynydd yn parhau. Nid ydym yn ddigon hysbys V Mudiad yn ei gylch fel ag i allu Pentecostaidd, rhoddi hanes manwl-gywir o'r gwaith, ond credwn mai'r ffaith yw f'od iddo gysylltiad agos a bywydol â'r Diwygiad Cymreig diweddar. Os na chamsyniwn, yn Los Angeles, Cahfornia, y cychwynodd, a hyny trwy rywun oddiyno a fu yn Nghymru yn 1904-5, ao a fendithiwyd yn helaeth tra yma. Cariodd ef y tân gydag ef pan ddych- welodd gartref o Gymru, ac, yn mhen peth amser, dadblygodd pethau i'r wedd bresenol arnynt. hyny yw, cafodd y rhai a brofasant y fendith ddiwygiadol y fendith ychwanegol o " fedydd yr Ysbryd Glân gydag arwyddion Pentecostaidd." Ymledodd oddiyno yn raddol tros ranau o'r Unol Dalaethau, ao yna i India, Prydain, yr Almaen, &c. Tua thair blynedd sydd oddiar pan y deffröwyd ni i ganfod fod y mudiad yn gyfryw ag a orfodai sylw ato, a'n dyled, fe ddichon, yw dweyd, mai sylw tra anghymeradwyol a gíifodd genym ar y dechreu. Yn ystod_ y cyfnod hwn, parodd digwyddiadau'r mudiad giyn benbleth i arweinwyr ysbrydol y gwledydd. Cymerodd mwyafrif mawr athraẁon y Concentions er dyfnhau bywyd ysbrydol, safiad pendant y tuallan iddo. Methai llu o'r dynion mwyaf ysbrydol, mwyaf hyddyeg yn y Gair, mwyaf arferol âg adnabod dichellion y gelyn, mwyaf cynefin â gweddi ao â chymundeb â Duw—dynion a anrhydeddid fel y cyfryw gan Dduw a dynion,—^methent yn dêg a gweled fod y mudiad o'r Ysbryd Glân. Yn ngolwg llawer o honynt, uid oedd yn ddim amgen nag ystryw Satan i roddi i hlant Duw fendith gau yn yr adeg pan yr oedd Duw wrthi yn cyfranu'r %cir fendith.