Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EFENGYLYDD. 185 Cyfrol I. Rhif 12. Rhag. 1909. EQEWSZER Yn Ionawr, y flwyddyn lion, wrth ymgymeryd â gofal Ye Efengylydd, ein harwyddair oedd Jehoeah-Jireh— " Yr Arglwydd a ddarpar." Y mae genym bob achos wrth barotoi rhifyn olaf 1909 i'r wasg, i godi Ebenezer— " Hyd yma y cynorthwyodd yr Ar- glwydd nyni." BLWYDDYN HYMOD. Nid yn hawdd yr anghofìr 1909 yn nglyn â 'r E FENGYLTDD, Gwnaethpwyd pethau rhyfeddol—pethau anhygoel bron ; ac mewn adfyfyr teithia digwyddiadau'r flwyddyn eto o flaen ein llygaid. Gwelwn eto y modd y'n denwyd gan Dduw i fwrw baicli arianol y misolyn arno Ef, a'r modd y mae Yntau wedi anrhydeddu ein hymddiriediaeth ynddo. Gwelwn ein cylchrediad, yn gyntaf, yn dyblu, ac yna, yn treblu. Gwelwn alw nifer o frodyr a chwiorydd i ffurfìo " Cylcii Gweddi " i gadw'r gwaith yn gyson mewn gweddi ger bron yr Arglwydd. Gwelwn ffurfìo " Cronta y Dosbarthiad Riiad," a'r cyfraniadau yn gyson ddylifo iddi. Gwelwn gynal Cenadaethau yn Nê a Gogledd ein gwlad i alw sylw ein caredigion yn yr eglwysi at bethau uwch y bywyd sydd yn Nghrist lesu. Gwelwn eto'r dydd a ddygodd i ni yr anrheg o Gerbyd Efengyltj. Gweíwn ddydd bythgofiadwy Cyflwyniad y Cerbyd yn Llandrindod. Gwelwn yr Arglwydd yn dwyn i'n golwg y Cenadwr a ddewisodd Efe i'r gwaith. Gwelwn eto'r Cerbyd ar ei deithiau; y tyrfaoedd yn gwrando, y meddw yn cael ei ddigadwyno mewn moment; yr ieuanc anystyriol J^- cael ei enill i feddiant Crist yr Arglwydd; a'r arwynebol-grefyddol yn cael eu noddfeydd twyllodrus wedi eu bwrw i'r llawr. Gwelwn groesaw caredig gwein- idogion a pliobl yr Arglwydd i'r Cenadwr, a'u cynorthwy iddo yn ei waith. Gwelwn fasnachwyr, amaeth- wyr, ac eraill yn benthyca eu ceffylau i dynu'r Cerbyd yn ei flaen. Gwelwn ffrydiau o trac'ts, llyfrynau, a rbanau o Air Duw yn llifo i ganoedd o gartrefi, ie, a gwelwn anghenion arianol y gwaith yn cael eu cyflenwi yn hael a chyson heb i ni geisio dimai gan neb ond gan yr Arglwydd. Tra'n syllu ar yr orymdaith hon o ddaioni J.)uw yn myned heibio, a yw yn beth i synu ato os y gwaeddwn, " Ar Ei Bex bo'r Goron ! " Tn ei law Ef, os arbedir gwynebu ni, neu os oeda Efe i9io. ddyfod, vr awn i mewn i 1910. Ffyddlawn ydyw Efe !—dyna ein digon. Os gofyn neb beth yw ein rhaglen gyda golwg ar flwyddyn newydd Yr Efengylydd, nid oes genym nemawr o ddim yn fwy pen- dant i'w ddweyd, amgen nag j bwriedir cadw at yr un llinellau o bregethu a chefnogi athrawiaethau pur yr Efengyl; enyn dyddordeb yn narllen a myfyrio Gair Duw; darparu ymborth i faethu y creadur newydd yn Npdirist; a'r cwbl yn tueddbenu yn adeilad Ei Gorph Ef, yr hwn yw yr Eglwys. Disgwyliwn hefyd gael parhad o gynorthwy gwerth- fawr y brodyr a gyfranasant i'n tudalenau yn ystod y ddwvT flynedd