Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YK EFENGYLYDD. 169 Cytroll. Rhif11. Tach. 1909. 'ílIIIÄÌl 'j. ■:•'.:■ f OS bu angen erioed, y dala mae angen heddyw i wir dirgelwch ddisgyblion ein Har- y ffydd. glwydd i ymdrechu'n bybyr " yn mhlaid y •flydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint." Y mae rhawd yr anwiredd yn myned yn fwy rhwysgfawr beunydd, a chynydd y cyfeiliornad yn cyfiymu'n anhygoel. Diau ein bod yn " yr amser- oedd diweddaf " y dywedodd Paul am danynt y nodweddicí hwynt gan ym- adawiad rhai oddiwrth y ftydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus. Ychydig yn fwy na chenedlaeth yn ol, prin y meiddiai neb yn yr eglwysi awgrymu ei fod yn amheu dim o'r pethau a gredid yn sier yn eu mysg. Clywid swn cabledd ambell i anffyddiwr o'r tuallan i'r egìwys, ond ni cheid sain anhynod o'r tumewn i'r eglwys ei hun hel» i'r hwn oedd yn euog o'i st'ÌMÌo gael arddeall yn uniongyichol mai tuallan oedd ei le. Mor wahanol yw pethau heddyw! Cwestiynir pob erthygl yn y gredo Gristionogol heddyw, a hyny yn •ddigywilydd, ac heb fawr berygl deffro gwrthdystiad yn erbyn hyny. Dygir ffeithiau mawrion, sylfaenol y Dad- guddiad Dwyfol at fainc beirniadaeth hanesiol. Rhaid chwilio er cael sicr- wydd a fu y fath un a Iesu, ac os bu, ai gwir yw'r hyn ddywedir parthed ei Berson, ei fywyd a'i adgyfodiad. Caniateir, hyd yn nod gan arweinwyr crefyddol mewn eglwysi a ystyrir yn eíengylaidd y gall llawer o'r hyn fernid gynt yn ddiymwad, fethu dal goleuni llachar beirniadaeth ysgolheigaidd y cyfnod hwn. 0 gadair lywyddol un IJndeb Anghydffuríìol daw anerchiadau a dan- seiliant awdurdod y Beibl, ac yn ngìiyfarfodydd blynyddol diweddar yr un Ündeb, yn Eeadicg, darllenwyd dau bapyr a gydsynient â phrif hawliau rhesjanoliaeth yr oes, ac o'r braidd y cafwyd un i wrthdystio. Ymddengys fel pe buasai yr eglwys yn yswatio'n grynedig wrth borth athroniaefch ddi- dduw ac yn barod i dderbyn gyda diolchgarwch unrhvw friwsionyn o'r dorth y gwel hono yn dda ei adael iddi. Dyma yn wir beth yw cael ein han- rheithio drwy phiîosophi a gwag- dwyll, yn ol tràddodiad dynion, yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist. Mae doethineb y byd hwn yr hon sydd ynfydrwydd (1 Cor. i. 20), ao i'w difetha a'i dileu (1 Cor. i. 19); yr hon nas gall neb drwyddi adnabod Duw (1 Cor. i. 21^: yr hon a arweiniodd dywysogion y byd hwn i groeskoelio Arglwydd y gogoniant (1 Cor. ii. 8),— y mae hon wedi ei dyrchafu i le'r ddoethineb guddiedig. Gorseddir yr anianol. a dygir y petiiau sydd o Ysbryd Duw i dderbyn ei ddyfarniad ef-— pethau nas gall y dyn anianol eu derbyn na'u gwybod (1 Cor. ii. 14). Dodir Dadguddiad Duw anfîaeledig i sefyll ei brawf gerbron rhesw^m dyn ffaeledig. Mewn gair, y mae'r Eglwys Gristion- ogol wedi profi yn annheyrngar i'r ymddiriedaeth a osodwyd arni gan ei Harglwydd, ac yn caniatau i'r fìydd a rodded unwaith iddi i gael ei had- fîurfio yn ol ewyllys yebryd yr anghrist. Onid yw hyn yn oleuni tarawiadol ar