Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EFENGYLYDD. 137 Cyfrol I. Rhif9. Medi, 1909. EIN GYDA diolch mawr yn ein calon i Dduw yr ydym cerbyd. yn gallu hysbysu fod ein Cerbyd bellach wedi cych- wyn ei deithiau o dan ei enw newydd. Mae "'Charity/ No. 1 Gospel Car" Thomas Champness a Pastor Lomas i'w adnabod o hyn allan fel " Cerbyd Ye, Efengylydd." Cafodd nifer o'n dar- llenwyr ac eraill olwg arno yn Llan- drindod, a phleser mawr oedd ganddynt oll weled cerbyd mor ardderchog at wasanaeth yr Efengyl yn ein gwlad. 0 Landrindod aeth i Lanfair-Muallt, yna i Lanwrtyd, ac oddiyno drachefn i Lan- ymddyfri, lle y mae yn awr,—adeg ysgrifenu y llinellau hyn. Ni phender- fynwyd eto yn sicr pa gyfeiriad a gymer oddiyno. Dichon y cyrhaedda gyrau Penfro cyn pen mis neu ddau, ond os cyfeiria'r " golofn " i ryw bwynt arall, dilynir hi heb betrnso. Y mae yn gerbyd gyda'r mwyaf o'r fath, wedi ei ddodrefnu oddimewn â jboll angenrheidiaii'r gwaith, ac oddi- allan wedi ei brydferthti âg adnodau pwrpasol wedi eu paentio yn hardd. Ar y ffrynt ceir y geiriau canlynol, un o ddau tu y drws :— ''WepreachChrist crucifled.*' "We trust inthe Living God." Ni ellid cael arwyddeiriau mwy mynegiadol o'n cenadwri a'n hadnoddau. EIN Parhawn i synu'n ddiolch- gar wrth weled amlyced nadwr llaw yr Arglwydd yn mhob oam a gymerwyd, ac yn enwedig yn newisiad y cenadwr. Ni wnaethom amgen rhoddi'n sêl ar yr hyn mor eglur oedd yn apwyntiad yr Ysbryd Glân. Dywedodd Efe, " Neillduwch i mi W. T. Evans," a gwnaethom hyny mewn hyder dedwydd yn noethineb y dewisiad. Mawrhawn y fraint o gael cyflwyno Mr. Evans i'n darllenwyr fel ein Cenadwr. Efe, bellach, sydd a gofal y Cerbyd arno, a'i law ef fydd ar lyW yr ymdrech. Brawd o Bontypridd ydyw, a hyfryd yw gwybod am y modd rhyfeddol y bu'r Arglwydd am flyn- yddau yn ei barotoi i waith fel hwn, a'r modd y rhyddhawyd ef oddiwrth ei fasnach yn yr amser priodol ar gyfer y gwaith. Ond dyna, dichon y ceir y stori ganddo ef ei hun ryw dro. Anwylir "Willie Evans" gan bawb a'i adwaen : y mae ganddo gymhwys- derau eithriadol ar gyfer y gwaith, ac â allan gyda'n hymddiriedaeth lwyraf ynoldo. Priodol yw nodi ei fod yn anturio i'r ymdrech heb unrhyw drefn- iad yn nglyn â'i gynaliaeth, amgen ffydd syml y bydd i'r Arglwydd gyf- lenwi ei holl raid, tymorol yn ogystal ag ysbrydol. Saif ar Matt. vi. 33; cred ei fod yn " werth mwy na llawer o adar y tô, ' ac na cha weled eisieu, oblegid " ft'yddlawn yw yr Hwn a'i galwodd." Cynorthwyir ef o bryd i bryd gan frodyr da ao awyddus i waith o'r fath. Y mae y brodyr canlynol wedi trefnu eisoes i dreulio wythnos yr un yn y Cerbyd i gynorthwyo'r CenadwTr: —