Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EFENGYLYDD. 73 Cyfrol I. Rhif 5. Mai, 1909. Ewgòo Hcbubol." |N nghalon lesu llosgai yr awydd achubol yn oddaith o dân dwyfol. Ysfa angherddol i achub a'i dygodd i'n byd ni. " Canys daeth Mab y dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid." Dyma y nwyd sanctaidd a nodweddai ei.holl fywyd, a dyma elfen yn ei gymeriad a'i gosodai ar ei ben ei Hun. Diystyru a dirmygu y coliedig wnelai dysgawdwyr crefyddol ei oes; nid oedd ganddynt genadwri at "bublicanod a phechaduriaid, ac nid oedd gronyn o gydgord rhwng eu hysbryd hwy a cíialon Duw, yn ei bawydd i achub y byd. Yn mherson Iesu Grist y cawn Un a roddai fynegiad perffaith o deimlad ac agwedd y Tad tragywyddol tuag at afradloniaid ei lywodraeth. Yr oedd " Uon'd ei galon fwyn o gariad at drigolion llawr." Yr oedd ei galon mor llawn o gariad a,t y byd nes y torodd ar Galfaria fel blwch o enaint gwerthfawr, yn aberth o arogl peraidd, ;ac y mae peraroglau ei gariad aberthoí yn _ llenwi yr holl nefoedd heddyw. €aiff yr Iesu ei adnabod byth fel Un a garodd y colledig hyd angeu, ie, angeu y groes. Pwy all dywedyd " yr hwn a'm carodd, ac a'i rhoddes ei hun drosof fi," a pheidio canu ei glod? Y llysenw roddodd ei wawdwyr arno, 44 Cyfaill publicanod a phechaduriaid;" yw yr enw melusaf ar Iesu heddyw. Yn hyn, o bob peth, y dylem ni fod yn debyg i Iesu Grist. Cydymdeimlad a chalon lesu yn ei awydd achubol; yn Ei dosturi at y colledig; yn Ei ildiad o bob peth, ie, hyd ya nod r i fywyd dros iachawdwriaeth y byd, dyma yw ein hangen penaf. Mor anhraethol bwysig yw cadw yr ysbryd hwn, ei feithrin a'i ddyfnhau 1 Hyn ddylai fod ein gofal blaenaf. Nis gall dim fod yn fwy niwreidiol i fywyd ysbrydol, na cholli yr awydd i achub dynion, ac nid oes dim yr ydym yn fwy tueddol i'w golli. Yn John Wesley, yr oedd cariad at eneidiau yn llosgi yn wenfflam. Yn ngrym ei gariad, boddlonai fod yn wael ac yn salw, a myned i'r prif'ífyrdd a'r caeau i gymhell dynion at Grist. Àrferai David Brainerd ymdrechu mewn gweddi ingol dros yr Indiaid, nes ei fod yn llesg a dinerth yn ei gorph. Bore, hwyr, a chanol dydd y llefai Richard Baxter ar Dduw ar ran pobl Kidderminster. Boddlonai Paul fod yn bob peth i bawb, fel yr enillai rai i Grist. Gwyliwn rhag i'n bywyd crefyddol ddirywio, a myned yn hunanolrwydd duwúol, ac yn hunanoldeb cysegredig. Y mae perygl i ni wrth gyfyngu ein golwg ar yr eglwys yr hon yw ei gorph Ef, gau ein llygaid ar y byd dros yr hwn y bu Crist farw: " Nid dros yr eiddom ni yn unig eithr dros bechodau yr holl fyd." Anogir ni i fyw yn ddyddiol gan ddisgwyl Âil-ddyfodiad ein Harglwydd, eto nid ydym i golli golwg ar amcan ei ddyfodiad cyntaf. Pwy soniai fwý na Phaul am " y gobaitb gwynf ydedig " ? Er hyny, pwy hefyd ymdrechodd fwy i achub dynion nag efe? Dylasai argyboeddiad o nesâd