Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y, C R 0 N I C L, Rhif 105. IONAWR, 1852. Cyf. X. (Eoûamt. ADGOFION AM GYMYDOGION YMADAWEDIG. Ciiwefrob 21, 1808, bu farw Evan Lewis, gynt o Dir- ycwm. Cafodd ef a brawd a dwy chwaer eu hymddifadu p fam ofalus dyner pan yn bur ieuainc. Aeth ef wedi hyny i weithiau haiarn Bilston, lle y bu farw, ac anfonwyd yr adroddiad byr a ganlyn am ei brofiad yn ei gystudd diweddaf at ei chwaer Mrs. Ann Roberts, Ffriddfach, mewn llythyr oddiwrth gyfaill crefyddol ag oedd gydag ef ar y pryd. "Anwyl chwaer yn Nghrist,—Daeth eich Hythyr at eich brawd i'w law yn ddiogel, o gylch wythnos cyn ei farwolaeth. Yr oedd yn dys- gwyl am dano. Yr oedd ei boen a'i wendid ar y pryd mor fawr a'i ysbryd mor isel fel y barnwyd yn oreu oedi ei ddarllen am ycbydig oriau. Pan y cafodd ronyn o seibiant galwodd am y llythyr, ac adfyw- iodd ei galon yn fawr wrth glywed ei ddarllen,—yn enwedig pan oedd- ych yn son am y berthynas ddyblyg sydd rhwng ceraint duwiol a'u gilydd; ac am waed yr Oen yn lladd ofnau marwolaeth. Buasai yn hoff iawn genych weled mor effeitbiol yr oedd yn canmol trugaredd am ei ddilyn ar hyd ei holl grwydriadau, ac yn ymweled ag ef yn ei gys- tudd yn y wlad bell yma. Yr oedd yn credu o hyd fod hyn wedi dyfod iddo mewn atebiad i weddiau ei geraint yn Llanbrynmair: a diau fod eu gweddîau mewn cof ar ei ran, ac y mae hyn yn annogaeth gref i barhau mewn gwedd'iau trwy bob digalondid. Cyfaddefai ei fod wedi gwrthgilio yn mhell,—ei fod wedi hollol esgeuluso pob moddion crefyddol am bron bymtbeg mlynedd ; ond fod yr hymnau a ddysgodd gan ei fam, a'r cynghorion a gafodd ganddi yn nyddiau ei febyd, yn dyfod yn fyw i'w gof ac i'w deimlad yn wyneb ei aBechyd. Yr oedd yn hyfryd iawn i weled pan yr oedd meddygon daear yn ei roddi i fyny, fel yr oedd y Meddyg mawr yn ymgeleddu ei enaid. Gellid dweyd am dano yn ngeiriau Zechariah,—" Onid pentewyn y w hwn wedi ei achub o'r tân." Bu darlleniad " Taith y Pererin " yn ddyddanwch mawr iddo yn ei ddyddiau diweddaf. Yr oedd yn ddiolchgar iawn hefyd am ym- weliadau cyfeillion i wedd'io gydag ef. Yr oedd yn hynod o blygeiig