Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CROFICL, Rhif 110. MEHEFIN, 1852. Cyf. X. (Efjfcatnt MR. HUGH DAVIES. GAIB o'm teimlad wedi colli fy nghyfaill me. HÜGH DAVIES, FWLL Y CALLOD. " Gufid sydd arnaf am danat ti, fy mrawd." Mae fy nheimlad a'm synwyr bob araser yn angbytuno pan feddyliwyf am America. Mae y blaenaf yn beio ar y wlad hòno am ei bod yn dwyn fy ngbyfeillion, a'r olaf yn ei cban- mol am ei bod yn rhoddi gwell lle iddynt fyw. Pan symud- odd teula anwyl Mr. Lloyd, o'r Ffynhogion, dros y môr i'r " Gorllewin pell," taerai gwangalondid na cheid yr un man cyfleu8 i droi ar ganol dydd y Sabbathau y buasid yn y Pwll Glas y bore, Graig Fechan 2, a'r dref 6. Yr wyf wedi cael digon o wersi yn fy oes i beidio edrych gormod yn mlaen ar gwmwl na heulwen, ar fynyddau na gwastadedd, ar ddrys- au clöedig, na drysau agored. Duw yn ei raglunîaeth a'i ras sydd ambell waith yn cau ffyrdd i fyny â drain, a phryd arall yn agor drysau, gan balmantu prif-ffyrdd yn yr anialwch. Wedi pregethu y bore yn y Pwll Glas y Sabbath y dycbymyg- wn na feddwn yr un man cyfleus i droi ganol dydd, gwelwn ŵr tàl boneddigaidd yn cyfeirio ataf, ac yn gofyn a ddeuwn gydag ef i gael ycbydig luniaetb. Cydsyniais yn ddîolcbgar. Deallais mai fy ngbymwynaswr oedd Mr. Davies, Pwll y Callod, cefnder i'r dduwiol garedig, a boneddigaidd farn yn Israel, y ddiweddar Mrs. Peter Williams, Ruthin. Boed beddwch i'w llwch, a ffyniant i'w pherthynasau ! Nid all neb à Hygad yn ei ben fyned i gegin PwII y Callod heb ddeall fod yno "ei le i bob petb, a phob peth yn ei le."