Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEONICL, Rhif 112. AWST, 1852. Cyf. X. <Eoftamt. YMADAWIAD FY CHWAER. Y mae rhai perthynasau a chyfeillion yn dweyd mai buddiol fyddai gwneud ychydig sylwadau ar fywyd a marwolaeth fy chwaer. Ymdrechaf eu gwneud yn fyr ac addysgiadol. Gan mai brawd sydd yn ysgrifenu, caniatäer iddo guddio y beiau yn hytrach na'u cyhoeddi: ac wrth gofnodi y rhin- weddau, ymrwyma fod yn gydwybodol. Fy chwaer ydoedd Elinor, merch hynaf John ac Eliza- beth Jones, Llanrhaiadr, (gynt Bethel, ger y Bala.) Ganwyd hi Medi 29, 1817, yn Tyddynysgubor, tua milldir islaw Bethel. Byddai boh amser pan yn blentyn yn barchus o'i rhieni. Clywais hwy lawer gwaitb yn canmol ei hufudd- dod er mwyn i'r plant eraill ddilyn ei hesiampl. Yr oedd yn un eobr a gonest a gofalus fel ag yr oedd llawer o bethau pwysig perthynol i amgylchiadau y teulu yn cael eu hym- ddiried iddi pan yn ieuanc, heb ofn iddi ymddwyn yn annheilwng o'r ymddiriedaeth. Ni chafodd fy rh'ieni ddim gofid oddiwrth EUn. Fel chwaer yr oedd yn ofalus am danom, a thyner o honom ; a bu i ni ar lawer amgylchiad megys mam, a'i hannedd yn gartref. Yn ei hymadawiad, y mae y ddau sydd yn fyw wedi colii chwaer a mam. Fy chwaer ydoedd wraig i William Davies, crydd, Bethel. Byddai bob amser yn dyner a gofalus am ei phrîod. Yr oedd yn ymgeledd gymhwys iddo. Yr oedd y ddau yn deaìl teimladau eu gilydd, fel ag yr oeddynt yn ofalus y naill am y Hall. Parhaodd eu bundeb priodasol am agos i ddeuddeng mlynedd ; a gwnaeth ef ei ran er attal i'r undeb gael ei dòri, ond methodd. O dan deimlad y byddai iddi ei adael yn weddw, ysgrifena,—" Y mae------ yn dweyd nad oes modd iddi fendio. Dyna fel y darfu y meddyg ddedfrydu bywyd fy anwyl wraig. Wel, John, yr wyf mewn amgylchiad difrifol wrth feddwl am danaf fy bun a'm plant bychain.