Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CROUICL. Rhif 117. IONAWR, 1853. Cyf. XI. öMamt. WELLINGTON. Yr ydym yn meddwl fod Lloegr wedi cysegru gormod o amser ae o feddwl, o siarad ac o ddawn—gormod o bapyr ac inc, ac awen ac argraff—gormod o agerdd ac o goed, ac o farmor ac o ddillad galar—gormod o rwysg ac o drwst—a llawer gormod o arian y wlad tuag at goffadwriaeth gorchestion milwraidd ei diweddar Faeslywydd. Nid ydym yn cenfìgenu wrth y titlau, a'r urddau, a'r gwobrau a roddwyd iddo o bryd i bryd; ond yr ydym yn credu fod tuedd drwg nodedig mewn llawer o'r rhwysg, a'r draul, a'r drafferth, a'r udganu, a'r canmol, a'r brolio a fu yma ac acw mewn cysylltiad â'i anghladd. Yr oedd yn ddyn o feddwl diwyd, bywiog, cffro—o galon oer benderfynol—o lafur rheolaidd a diflin; yn ddyn a fedrai lywodraethu ei flys a'i ysbryd yn lled dda, a dal yn weddol rhag ymchwyddo hyd holltiad dan wenau heulwen llwyddiant. Yr ydym yn credu y gwnaethai ffarmwr Uwyddiannus, siopwr gofalus, neu farsiand- wr anturiaethus; y gwnaethai oruchwyliwr cyfarwydd, neu beiriannydd medrus, neu esgob purion, pe buasid yn troi ei feddwl at hyny. Ond cysegrwyd ef o'i febyd i ddysgu crefft rhyfel; a throdd ei grefft yn un dda iddo am dymmor byr y byd yma. Bu yn offeryn dewr, diwyd, a ffyddlon i gyflawni cynlluniau llywodraeth Lloegr trwy holl ddyddiau ei filwriaeth: ond y pwnc ydyw, a oedd y cynlluniau hyny yn rhai cyfiawn a buddiol a doeth. Yr ydym ni yn credu mai cynlluniau cen- figen, cybydd-dod, a balchdcr oeddynt—mai cynlluniau hunan yn ei ddulliau gwaethaf oeddynt. Yr ydym yn barnu nad oedd dim llawer o ddynoliaeth nac o ddyngarwch yn Sior y Trydydd pan ar y goreu; ac yn ystyried mai nwydau gwaethaf ei gulni,