Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL. Rhif 120. EBRILL, 1853. Cyf. XI. ginmỳion a ffimmon. LLYFE MR. COBDEN, AC ACHOS HEDDWCH Y mae j deyrnas yn awr yn ddwy blaid gycla golwg ar bwnc mawr heddwch. Y mae un blaid yn arfer ei holl ddawn a'i dylanwad i gynnal i fyny hen grefft rhyfel, oblegid fod rhan fawr o'u helw hwy yn deilliaw oddiwrthi. Y mae y blaid hòno yn un gref a lluosog iawn—yn cynnwys maes-lywyddion, a môr-lywyddion, a Senedd-lywyddkm, a llys-lywyddion, a'u holl epil, a'u cefnderoedd, a'u neifrau, a'u cariadon drwy hoíl daleithiau ymerodraeth Prydain Fawr. Y mae ganddynt eu cymdeithasau a'u cyhoeddiadau er cynnal i fyny enw ac elw eu crefft. Ymaeganddyn't United Senice Clubs, ac Army and Navy Clubs, ac East India Servicc Clubs, a clrynghorwyr er dyfeisio cynlluniau, ac ysgrifenwyr ac areithwyr er gosod y eynllimiau hynymewngweithrediad, a'rcyfan oll ercynnal yn fyw rwy7sg, gwastraff, a segurdod crefft ddrudfawr rhyfel. Y mae plaid arall yn y deyrnas, sef*plaid heddwch, yn ym- resytnu yn oleu ac yn bwyllog, yn foneddigaidd ac yn anwrth- wynebol yn erbyn ysbryd rhyfelgar, a sefydliadau milwraidd yr oes. Y mae gan blaid heddwch hefyd ei chymdeithas a'i har- eithwyr, a'i hysgrifenwyr a'i thraethodau; ac y mae yn ennill nerth, a nifer, a dylanwad yn gyflym beunydd, er gwaethaf holl wawd, a chyfrwysder, a chynlluniau cyhoeddus a dirgel- aìdd amddiffynwyr segurdod, a gwastraff, a chreulonderau arferion milwraidd. Hoff iawn genym welcd Älr. Cobden yn cymeiyd ei le mor wrol, ac yn gwneud ei ran mor fedrus fel un o flaenoriaid achos heddwch; a'i fod yn cysegru teimladau gonest ei galon,