Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CEONICL. Rhif 126. HYDREF, 1853. Cyf. XI. &netci)ton a ^aneston. BRENIN YN SYRTHIO, A BACHGEN YN DRINGO I'W LE. " Canys y naill sydd yn dyfod allan o'r carchardy i deyrnasu, a'r llall wedi ei eni yn ei freuhiniaeth yn myned yn dlawd," Solomon. Yr oedd Solomon yn ddyn mawr mewn gwirionedd. Yr oedd ganddoiofalu am deyrnas fawr, atheulu mawr, agoludmawr. Arwydd o nertli yw gwnend defnydd mawr o beth byehan, ac arwydd o wendid yw gwneud defhydd bychan o beth mawr. Cyfŷd un berl lle na wel y llall ond llwch. Arwydd dyn mawr yẃ gwneud peth tywyll yn oleu, ac arwydd dyn bychan yw gwneud peth goleu yn dywyll. Hynodid y gwr doeth gau y nodwedd blaenaf. Sylwai ar bob peth. Dechreua ei sylwadau drwy ddweyd, " Yna mi a-droais, ac a welais dan haul." A'r hyn a welodd a lefara yn ein testun. Gallem ninnau ddweyd i ni weled yr un peth. Rhyfedd mor debyg yw y byd yn awr i'r hyn ydoedd y pryd hyny! Sylwn yn I. An. FFEiTHiAU r testun. Yr uchel yn ymdreiglo i lawr, a'r isel yn dringo i fyny. Mewn awdurdod. Ganwyd Nebuchodonosor yn y frenhin- iaeth, a hòno yr eangaf a'r gadarnaf yn y byd; ond gwelwyd ef ar ol hyny wedi colli ei synwyrau, yn cael ei yru o blith dynion, ac ni dderbynid mo hono ond i gymdeithas yr anifeiliaid; a chyda hwy y bu, ac fel hwy yr ydoedd, yn pori gwellt. Gan- wyd Charìes I. Lloegr, a Louis XVI. Efrainc, yn frenhinoedd, mewn palasau, yn nghanol pob mawredd; a gwelwyd hwy ill dan wedi hyny mewn carchardai, yn y sefyllfaoedd truenusaf; 'ie, gwelwyd. y ddau yn cael eu hanvain i'r dienyddle! O'r tu arall, gwelwyd llawer Joseph, allawerDafydd, a llawer Daniel, yn caeí eu geni yn dlawd, yn bugeilio defaid, yn cael eu easâu a'u dirmygu gan eu brodyr, a'u bwrw i bydewau a charchârdai; a gwelwyd hwy wedi hyny yn eistedd ar orseddfeinciau, ya