Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CBONICL, Riiif 127. TACHWEDD, 1853. Cvf. XI. (Eoûatnt. SAMUEL THOMAS JONES O'E MAESGLAS. Gair swynol yw teulu. Y mae darluniad bardd brenhinol Israel o deulu wrth eu pryd bwyd yn ddigyffelyb—" Dy wraig fydd fel gwinwydden fFrwythlawn ar hyd ystlysau dy dý; dy blant fcl planhigion olewwydd o amgylch dy ford." Beth fydd y palas gwydr yn Sydenham at yr olygfa yna? Un o drefn- iadau prydJFerthaf y Dnw mawr ydyw y drefn deuluaidd. Un o'i gymwynasau ef ydyw "gosod yr unig mewn teulu." Ond, teulu crefyddol! Dyna olygfa a swyna gerubiaid. Ymhyfryda Duw ynddi. Elai Crist ar brydiau " i dý gwr pechadurus," ond yn nheulu crefyddol Bethania y teimlai yn fwyaf cartrefol. " A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer, a Lazarus." Nid anghofiwn yn fuan ddarluniadau byw y Parch. "W. Ambrose o brydferthwch teulu crefyddol yn nghyfarfod y Tabernacl, Treftÿnnon, yr haf diweddaf. Aeth llawer teulu adref y noson hòno dan benderfynu bod yn fwy crefyddol. Golygfa dlws yw gweled teulu crefyddol yn cydgerddcd yn fìntai fechan, lan- waith, drwsiadus, i'r cysegr ar fore hyfryd dydd yr Arglwydd. Bu yr olygfa yn adloniad i'n mynwes lawer gwaith. Golygfa dlws yw gweled y teulu hwnw yn llenwi ei eisteddle yn yr add- oldy. Ond dyna y pryd y maent yn ymddangos yn brydferth —pan y mae llyfr Duw ar y bwrdd, y tad yn brophwyd ac yn ofíeiriad, y fam a'r plant yn cydwrandaw y geiriau bywiol, a'r cwbl, o'r mwyaf hyd y lleiaf, yn cydymostwng ger bron eu Cynnaliwr, ac yn cyd-dywallt diolchgarwch a gweddi o'u mynwesau i'w fynwes ef. Y mac rhyw brydferthwch mewn teulu crefyddol, hyd yn nod mewn trattod. Ni fu crefydd Job