Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD: JSTEWYDDIADUR CYMREIG, JU toanttuteih 2 ÖLBmrs stt Jtttairalia, Jfteto Eealanì), &c. CYF. Í.J MELBOURNE : HYDREF 16, 1874. DIHEURAD Y PWYLLGOR. Wrth osod y rhifjn cyntaf o'r misolyn hwn yn llaw y darllenydd, fe allai y disgwrlir i ni ddweud rhywbeth mewn ffordd o esg'usod- iad dros om ein hunain a thros ymddangosiad YR YMWEL- YDD ar y chwareu-fwrdd. Ar un olwg y mae hyny yn ddi- anghenraid—mae y ffaith ein hod heb yr un cyfrwng Cymreig at ein gwasanaeth yn y wlad hon, yn rheswm ynddo ei hun paham y dylai rhywun wneuthur ymdrech egniol i lanw y bwlch a gwneud y diffyg i fynu. Credwn fod pob Cristion, a dyn- garwr yn mysg ein cenedl, yn teimlo cymaint oddiwrth yr am- ddifadrwydd o gyhoeddiad Cymreig yn ein plith, fel nad rhaid i ni ond gwneud Vmdrech i gychwyn yr anturiaeth, a bydd pob un yn barod i'n cynorthwyo. D}rna mewn gair byr yw ein prif reswm dros g-ymeryd y cam cychwynol yn y symudiad pwy- sig' hwn. Mae dwy neu dair o fanteision pwysig y disgwyliwn eu sicrhau i ni ein hunain trwy gyfrwng y misolyn hwn, ac un o'r manteision hyny ydyw :— Cydnabyddiaeth.—Cydnabyddiaeth o'n gilydd fel dinas- yddion Cymreig yn ngwahanol ranau y wlad hon a'r trefed- ìgaethau cylchynol. Cydnabyddiaeth a phrif symudiadau y genedl Gymreig yn yr Hên Ẅlad, ac ar gyfandir yr America. Methwn a gweled fod^yr un ffordd i barhau y gydnabyddiaeth cyd-rhyngom a'n gilydd a chyd-rhyngom a'r genedl Gymreig yn ngwahanol ranau y byd, ond trwy gynal cyfrwng at y pwrpas hwnw mewn cylchrediad yn ein plith ein hunain. Er- byn hyn nid oes ond ychydig o'r cylchgronau Cymreig o wlad ein genedigaeth yn 'dyfod i'n plit'h. Fe allai nad oes dim un o bob cant o Gymry Australia a New Zealand yn derbyn y cyhoeddiadau Cymreig gydag un math o gyson- deb. Gwyddis hefyd nad ydyw y newyddiaduron Seisnig yn cofnodi ond y nesaf beth i ddim ag sydd o ansawdd hollol Gjm- reig • neu a fydd er anrhydedd a dyrchafiad cenedlaethol i'r Cymry. Cymerer y gystadleuaeth gerddorol yn y Crystaì Paìa'ce yn Llundain yn engraifft ar y mater yma. l)wywaitb