Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD: NEWYDDIADUR CYMREIG, Jtt toasauaetlt xt Cwmrn tm Jtttstraüa, Jîeto Eealanb, ŵc. CYF. I.J MELBOURNE: CHWEFROR 16,1875. [RHIF. 5. NERTH FFTDD YN CAEL EI ARDDANGOS YN MYWYD A GWEITHREDIADAU Dr. CULLIS. PENNOD V. Ar ol gorphen y gwelliantau a'r adgyweiriadau angenrheidiol ar y ty prynedig, ac wedi ei gyssegru mewn niodd difrifol i'r Arglwydd, bu yn aros tua deg diwrnod yn wag. Yn ystod yr amser hwn yr oedd Dr. Cullis yn gweddio ar yr Arglwydd am iddo gyfeirio tuag yno rai o'r cleifion digartref, er mwyn iddo gael gofelu am clanynt a gweinyddu cymwynasau ac ymgeledd iddynt. Ar y 7fed o Hydref y daeth yr ymgeisydd cyntaf i'w gynyg ei hun, ac wrth ei dderbyn i mewn gwnaeth y Doctor anfon gweddi ar ei ran tua'r nefoedd, am i'r Arglwydd fod gydag ef tra y byddai yn yr Home. Ar ben tri diwrnod ar ol nyny, y mae yr ail yn dod i mewn, pan y mae deisyfiadau cyffe- lyb yn esgyn ar ei rhan hithau. Èrbyn pen y mis yr oedd yno Dump wedi eu derbyn, ar ben y ddeufis yr oedd yno wyth, a chyn pen y tri mis yr oedd y ty yn llawn, a Dr. Cullis yn dech- reu gweddio am dy arall. Fe allai y dylid egluro yn fanylach yn y lle hwn, mai un o'r syniadau mwyaf hanfodol mewn cylsylltiad ar sefydliad ydyw yr un a drosglwyddir yn yr enw a roddir arno, sef y Conswmptire Home. Nid elusendymo hono, ond cartref yn ystyr mwyaf pri- odol o'r gair ; lle wedi ei ddarparu a'i agoryd gan yr Arglwydd trugarog i'w blant tlodion ac anghenus. i gael troi i mewn iddo, i gael gofal ac ymgeledd tadol yn eu horiau cyfyng diweddaf. ÄÉe pob gwyliadwriaeth yn cael ei harferyd er gwneud i bob un dcimfo yn gartrefol yno. Nid rai yn byw ar elusen ydynt, ond rai wedi dod i dy eu Tad, i ymddibynu ar haehoni y gwr sydd yn por- thi pob peth byw o'i ewyllys da. Mae yn angenrheidiol cadw y syniad hwn yn eglur yn y golwg yno, nid yn unig er mwyn esmwythau teimladau y dioadefwyr, ond hefyd er mwyn i Dduw gael y gogoniant oddiwrth y rhai a ddel i mewn yno. Un o'r pethau ag y eofelir yn benaf am dano yw gwneud i bawb deimlo, nad i'w y lle onid ty i Dduw ; ac y mae yn gysurus meddwl fod canoedd erbyn hyn, wedi ei bron yn <4borth y nef-