Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD: NEWYDDIADUR CYMREIG, Jlt toaeauacih y Oùuitrn gn jUtsiralia, £uto Eealanìi, &c. ; - "i,i CYF. I.J MELBOURNE : MEHEEIN 16, 1875. [RHIF. 9 NERTH FFYDD YN CAEL EI ARDDANGOS YN MYWYD A GWEITHREDIADAU Dr. CULLIS. PENNOD IX. Mae lioll waith Duw yn gyflawn o amrywiaeth, yn anfynyeh, os byth, y mae y gweithiwr mawr yn ei ddynwared ei hun ; nid oes dim dau ddiwrnod yr un í'el a'u gilydd yn nghorph blwydd- yn, mae rhyw wahaniaeth cydrhwng poh wythnos o'n bodolaeth a'r wytlmos oedd yn ei rhagflaenu; felly hefyd y mae holl flynyddoedd ein bywyd, y mae y tymorau yn amrywiol, yr hinsawdd yn gwahaniaethu, ac felly y mae ffrwythlondeb ÿ meusydd a'r gwinllanoedd. Mae Dr. Cullis yn cael profi hyn mewn cyssylltiad a'r g-waith sydd yn cael ei ddwyn yn mlaen dan ei ofal ; g'yda golwg ar y cyfraniadau mae y tymhorau yn cael eu hamrywio a'u eyfnewid ôl a gwrthol, ac yn y peth hyn mae yn cael ei wneud yn eglur, fod y deddfau sydd yn llywodraethu y sef- ydliad hwn yn dra gwahanol i'r rhai sydd yn llywodraethu masnach yn gyífredinol. Yn bur fynych pan y byddo masnach yn farwaidd mae y cyfraniadau at yr Home yn dyfod i mewn yn rhwyddaf; pan y bydd yr ymborth ddrutaf, fe allai mai yr amser hono y bydd eu cypyrddau hwy yn llawnaf. Cychwynwyd yr Home ar adeg pryd ag yr oedd yr aur yn wertií 50 y cant yn fwy na'r papyrau, a'r siwgr cyffredin yn ddeunaw cent y pwỳs, a phob peth arall yn gyferbyniol uchel; adeg ag y gellir dweud am dani, ei bod yn adeg o gyfýngder arianol; eto dyna yr adeg a ddewisodd yr Arglwydd i gychwyn y gwaith, ac er fod yr arian yn brin, fe gaed digon i gychwyn. Yr ydym wedi dangos yn flaenorol i hyn, fod misoedd cyntaf y drydedd flwyddyn yn amseroedd o brinder yn yr Home, na phrofasid eu cyffelyb yn flaenorol i hyn; yr oedd misoedd cyntaf y bedwaredd flwyddyn yn dra gwahanol, yr oedd y cyfraniadau yn dod i law o bell ac agos. Cawn g'ofnodion am roddion pwysig yn dyfod i ìaw o Prwsiẁ, Ffraingc, Lloegr, a rhai o wiedydd deheubarth yr Am- erica; ac er mai marwaidd oedd synmdiadau olwynion masnach yn j Taleithau Unedig, eto mae cyfraniadau o ganoedd o