Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD: IŸEWYDDIADUB CYMREIG, JU toaeanaeth p. ÖTsntrp jm ^ttjstralia, gltto Eealanb, &c. 7ii--------zzr ■ ■ ■ — . . . a_ CYF. I.] MELBOURNE; RHAFYR 16,1875. [RHIF. 15 DELWY DUW ANWELEDIG. GAN T PARCH. EVAN PHILLIPS, CASTELLNEWYDD YN EMLYN. " Yr hwn yw delw y Duw anweledig," medd Paul yr apostol am yr Arglwydd Iesu Grist (Colossiaid i. 15). Nid oblegid iddo yniddangos yn y cnawd am ei fod felly. Yn y Mab y mae y Tad yn gweled ei ogoniant ei hun. "Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd," y w tragywyddol deimlad y Tad tuag ato. Y mae dyn yn gweled gogoniant Duw yn yr un man ag y mae Duw yn gweled ei ogoniant ei hun. Y mae y Tad yn gweled ei hnn ynddo, ac y mae y sant yn gweled ei hun ynddo hefyd. " Mor debyg i mi ydyw," medd y Tad ; ac mor debyg i minnau ydyw. medd y sant. "Y mae fy Mab i yn ddyn," medd y Tad ; y mae fy mrawd innau yn Dduw, medd y sant. Y mae pawb sydd yn caru hwn yn rhwym o garu Duw, ac y mae Duw Dad mor rhwym o garu pawb sydd yn caru hwn. X mae Duw a dyn yn gwaeddi, DigoD, yn nelw y Duw anweledig. Edrychwn arno fel delw Duw, yn 1. Tnei gysylltiad ffr dadguddiad cyffredinol o wrthddry- chau ann-eledig ac ysbrydol. Y mae pob peth anweledig ac ysbrydol yn cael ei ddadguddio i ni trwy ddelwau. Nid yw pethau gweledig ond delwau o bethau anweledig. X mae pob sylwedd yn anìreledig—nid yd- ym yn gweled ond ei ddelw. Bu yr Anweledig am oesoedd yn ymgnawdoli ; J naill ddrych- feddwl yn tyfu drwodd ar ol y llall—cyfiawnder mewn pwysau a mesur, sancteiddrwydd mewn golchiadau, &c. Tua diwedd yr hen oruchwyliaeth, yr ydym yn cael ymylwaith y darlun gogo- neddus wedi ei orphen yn brydferth; ond y mae y canol yn wág. u Dangos i ni y Tad a digon yw i ni." Yr ydym yn gweled pob peth arall ; y mae pob peth Dwyfol ac ysbrydol yn cael ei gynnryiochli—yn ymddangos ; ond nid oes yma ddim yn dangos Person y Tad. Nid yw y cwbl sydd yn ymdddangos yn gwneyd dim ond perffeithio gwagedd yr ymddangosiad : y mae