Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %i Mmnut^ i Cgmrg p üttstntlh, gjefo geatetŵ, ŵ. Ctf. II.] MELBOTJENE, IONAWE, 1876. [Rhif. 1 &raeti)oîiau, &c. D. L. MOODY, Y DIWYGIWR MAWR. PENNOD I. NiD oes, efallai, odid ddyn ag y mae pawb trwy holl wledydd cred yn gwybod ei enw yn well na D. L. Moody. Am y ddwy flynedd ddiweddaf y mae yr enw hwn wedi bod yn wastadoî o flaen llygaid y rhai sydd yn darllen y newydd- iaduron, ac yn enwedig y dosparth hwnw a dalant sylw i symudiadau crefyddol. Y mae y defnydd a wnaeth yr Arglwydd o hono fel ofleryn yn ei law i adeiladu ei eglwys ac i gynhyrfu y byd yn y blynyddoedd diweddaf hyn wedi ei wneud yn wrth- ddrych sylw ac edmygedd míliynau drwy wahanol wledydd y byd Cristionogol. Ond, fel rheol, yr oll a ŵyr y cyffredin bobl yn ei gylch yw ei fod yn bregethwr llwyddiannus, fod yr Arglwydd yn ei arddel, ac yn llwyddo ei ymdrechion er iach- awdwriaeth dragwyddol miloedd o'i wrandawyr. Ychydig wyddis am y modd y daeth efe yn mlaen i'r safle bwysig a lenwir ganddo yn awr. Mae yn ein bryd, " Os yr Arglwydd a'i myn," roddi ychydig o hanes Mr. Moody o'i febyd yn mlaen, a dangos i'n darllenwyr mai nid cael ei eni yn bregethwr mawr a wnaeth, ac na neidiodd ar unwaith i anterth ei boblogrwydd a'i ddylanwad, ond mai dyn ydyw wedi ei ddysgu gan Dduw, ac wedi cael ei arwain o gam i gam, ac o ris i ris, nes dyfod i'r lle mawr a'r sefyllfa bwysig y saif ynddi yn bresenol. Dechreuwn gyda THYMOR EI FABOED. Y plentyn ydyw tad y dyn. Mae defnyddiau y dderwen )*n y fesen. Ganwyd ef mewn ftermdy bychan gerllaw Northfield, Massachusetts, T. U. America, ar y 5ed o Chwefror, 1837. 0 naw o blant (saith mab a dwy ferch) efe oedd y chweched. Bu ei dad farw ar yr 28ain o Mai, 1841. Y pryd hyny nid