Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t ©tasannctíj % Cprg gn ^ustralia, gcto gealanb, ẅ. Ctf. II.] MELBOURNE, CHWEFROR, 1876. [Rhif. 2 &rart1)oîiau, &c. DWIGHT L. MOODY.—PENNOD II. YN WYNEBU AR Y BYD, AC YN YMUNO a'r EGLWYS. Yn fuan wedi cyraedd dwy-ar-bymtheg oed daeth ein gwron ieuanc i'r penderfyniad ei bod yn llawn bryd iddo edrych allan drosto ei huri, a chwilio am ryw ífordd drwy yr hon y gallai enill bywoliaeth yn annibynol a,r ereill. Gadawodd dỳ ei fam gyda'r bwriad hwn, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Ond gyda'r meddyliau uchel oedd ganddo am dano ei hun, mae yn naturiol i ni gasglu ei fod yn lled hyderus fod y byd mawr yn aros am dano, ac nad oedd raid iddo ond ei ddangos ei hun na byddai lluaws yn ymryson am ei gael. Yr oedd brawd iddo yn gwasanaethu mewn maelfa (store) yn Clinton, a galwodd yntau yn y dref hòno i gychwyn; ond nid oedd yno agoriad iddoj na neb ar y pryd yn awyddus am ei gynorthwyon. Aeth yn mlaen tua Boston, lle y preswyiiai dau ewythr iddo. Yr oedd, ac y mae un o'r rhai hyn, Mr. Samuel Holton, vn fasnachydd llwyddiannus mewn esgidiau, botasau, &c. feuasai y gwr hwn ychydig cyn hyn ar ymweliad a'i chwaer, ac yr oedd Dwight wedi gofyn iddo y pryd hwnw am le yn y siop, ac yntau wedi gwrthod; a'i reswm dros y gwrthodiad oedd fod ofn arno gymeryd bachgen mor nwyfus i le mor beryglus. Mawr oedd ei syndod pan welodd ei gâr ieuanc yn dyfod yn mlaen un diwrnod i ysgwyd 11 aw âg ef. Peidied neb a chamddeall, nid oedd Dwight yn myned yno y tro hwn i ofyn lle yn y siop. Na, dim o'r fath beth; galwai yno yn unig fel ymwelydd a ddaethai yn ddiweddar o'r gymydogaeth lle yr oedd chwaer Mr. Holton yn byw, dyna'r cwbl—nid oedd yn meddwl gwneuthur un trwbl i'w ewythr. Yr oedd yr ewythr arall yn ddyn û theulu lluosog, ac i'r teulu hwn y