Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR glt $te<maet(î g Cgmrg p gtttstralia, iíefo gealatŵ, ŵc, Ctf. II.] MELBOURNE, MAWETH, 1876. [Rhif. 3 Etaetí)oìJau, &c. DWIGHT L. MOODY.—PENNOD III. YN SYMUD i'R GORLLEWIN AC YN DECHREU AR EI WAITH CENADOL. Yn mis Mai, 1855, y derbyniwyd Mr. Moody i gymundeb eglwysig yn eglwys Mount Vernon, Boston. Yn mis Medi, 1856, gadawodd Boston, a thrôdd ei olygon tua'r Gorllewin mawr. Cyfeiriai ei gamrau yno yn y gobaith o dd'od yn mlaen yn y byd, ac enill iddo ei hunan gyfoeth, dylanwad, a sefyllfa annibynol yn mysg ei gyd-ddynion. Yr oedd pob peth yn ffafriol i'r dybiaeth y llwyddasai yn ei amcan—yr oedd yn fasnachwr da, yn ddyn ieuanc sobr a pharchus, ac yn un a wyddai pa fodd i gymeryd gofal o'i arian wedi eu cael— nid oedd dim yn wastraffus yn ei holl arferion. Yr oedd llawer un llai gobeithiol nag ef wedi symud i'r Gorllewin a dyfod yn mlaen yn dda yno, paham nad allasai yntau obeithic cael llwyddiant cyffelyb ? Yr oedd ganddo lythyr o gymeradwyaeth at foneddwr o'r enw Mr. Wiswall, yr hwn a gadwai esgidfa (boot and shoe store) yn Lake-street, Chicago. Derbyniodd y boneddwr hwn ef gyda phetrusder, oblegid yr oedd rhywbeth yn ei ymddang- osiad a adawai argraff anffafriol ar feddwl dyn dyeithr. Modd bynag, cafodd le fel gwerthydd yn y faelfa hon, ac ni bu yno ond amser byr nad oedd wedi enill ymddiriad ei gyf- logydd, a mwy na hyny—ei edmygedd. Daeth i fod yn un o brif ddynion y sefydliad, ac i ffafr uchel gyda'r prynwyr, ac felly, o aiagenrheidrwydd, gyda'r meistr. Yr oedd Eawer o ddynion ieuaingc heblaw efe yn perthyn i'r lle, ac yn y nos arferent gynal cyfarfodydd yn eu plith eu hunain i ddadleu ar brif bynciau y dydd mewn cysylltiad â gwleidyddiaeth a chrefydd. Mewn politics yr oedd Moody yn rhyddt'rydwr, ac o ran ei olygiadau duwinyddol yr oedd yn.