Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t Wmm\c\\ì i Cgmrg p gwstntUa, ÿeta &ealaiŵ, ẃr. (Jtf. II.] MELBOURNE, EBRILL, 1876. [Rhtf. 4 &raeti)olraii, &c. PREGETH. GAN Y PARCH. R. T. ROBERTS, MALDON. '• Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nliraed at dy dystiolaethau di. Brysiais, ac rtid oedais gadw dy orcüymynion."—Salm exix. 59, 60. Llais eglur a chyson y Beibl at bob dyn ydyw " Ystyria lwybr dy draed, a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn." Nis gwn pa faint o honom sydd wedi gwrando ar ei lais, a gweithredu yn ei ol. Gallwn fod yn sicr fod hyn o bwys i ni oll. Mae y gair " ystyria lwybr dy draed " ynddo ei hun yn dynodi pwys- igrwydd, ac fod perygl i ni ruthro yn mlaen yn rhyfygus ac anystyriol. Ystyria, ymbwylla, gwylia fod ar ormod o frys; cymer ddigon o amser i feddwl a chael allan pa un yw y ffordd dda. Os rhoddwn y cam cyntaf yn gyfeiliornus, byddwn yn debyg iawn o roddi yr ail a'r trydydd felly; ie, a therfynu ein gyrfa mewn trueni! " Oherwydd y mae ffordd sydd uniawn yn ngolwg dyn, ond ei diwedd yw ffordd angau." Gan hyny, nis gallwn fod yn rhy ystyriol a gochelgar. Pe na buasai yn y byd ond un ffordd, a hono yn un dda, ni buasai angen i ni betruso nac ofni o berthynas i ffordd arall; ond gan fod cynifer o gau ffyrdd, a'r canlyniadau o'u dylyn mor niweidiol a dinystriol, y mae o bwys i ni ystyried llwybr ein traed rhag ofn ein bod ar ffordd lydan dystryw a dinystr. " Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau." Ystyrir yn arwydd o ddoethineb mewn dyn ei fod gyda phob peth a wna yn ystyriol a phwyllog, yn enwedig os bydd can- lyniadau pwysig i'r pethau hyny; ac y mae canlyniadau felly i bob peth wna dyn, oherwydd creadur pwysig iawn yn Uywodraeth Duw ydyw—mor bwysig, fel y gwylir yn fanol ei holl gamrau a holl ysgogiadau ei feddwl, a rhaid iddo roddi cyfrif am bob gair segur a ddywed. " Onid ydyw Efe," meddai Job, "yn gweled fy holl ffyi'dd i, ac yn cyfrif fy holl gamrau?"