Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR Ctf. IT.] MELBOUENE, EHAGFYB, 1876. [Rhif. 12 £raetf)oìrau, &c. CYNYSGAETH Y SAINT. GAN Y PARCH. Ẃ. M. EVANS, MELBOURNE. " Byddwch lawen yn wastadol."—1 Thbb. v. 16. Ar yr óìwg gyntaf, dichon yr ymddengys yn beth diangenrhaid i gynghori dynion i fod yn llawen neu yn drist, gan yr ystyrir llawenydd a thristwch yn agweddau ar y meddwl a gynyrchir yn naturiol a di-egni gan ryw amgylchiadau neu effeithiau íyddont wedi cael eu dwyn i'w adnabyddiaeth. Nis gellir cyneu tân heb danwydd, ac felly ni ellir cynyrchu llawenydd heb yn gyntaf osod i lawr sail gorfoledd—heb roddi defnydd llawènydd i'r meddwl. Ofer fyddai dywedyd wrth y newynog "Bydd ddiwall yn wastadol" ac heb roddi iddo yr hyn a'i diwalla. Ofer fyddai dywedyd wrth ynoeth "Bydd gynhes yn wastadol"—anwydog fyddai heb i ni roddi iddo yr hyn a'i cynhesai. Ac íelly gyda golwg ar laAvenydd. Mae yn rhaid i ni ddeall gan hyny fod yr efengyl nid yn unig yn gorchymyn i'w chredinwyr fod yn llawen, ond y mae hi hefyd yn rhoddi defnydd llawenydd yn eu meddiant—mae hi yn cyfoethogi y natur, yn llanw y tŷ â thrysorau, ac yna yn dweyd wrth y credadyn, "Dyna dy ran, dy gynysgaeth, gwna y defnydd helaethaf o honi." Y mae athronwyr a dysgedigion mewn gwahanol oesoedd a gwledydd wedi bod yn dweyd geiriau fel hyn wi'th eu dysgyblion, ond gan nad oedd ganddynt ddim i'w gyfranu yr oedd y byd yn analluog i wrandaw eu cyfarwyddiadau. Mae yr efengyl yn dwyn perlau gwerthfawrocaf y nefoedd i gyraedd plant v ddaear—yn arlwy ger eu bron wleddoedd danteithiol yr 'iachawdwriaeth, ac yn dywedyd wrthynt,