Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NBU Sttm g «#atnt. Rhif. 11.] MAWRTH 12, 1853. [Cyf. V. DYDDIAU NOAH A DYDDIAU MAB Y DYN. Mak yr ysgrythyrau yn eglur ddangos fod dyddiau Noah yn debyg îawn i ddyddiau Mab y Dyn; canys " fel yr oedd yn nydd- iau Noah, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y Dyn.'' Mae y naill ddyddiau fel y lleill, yn ddyddiau pwysig, a'r rhai pwysicaf erioed ag a ddaeth i gyfarfod â theulu dyn. Yn y rbai cyntaf y boddwyd trigolion y byd, ac y bedyddiwyd y ddaear mewn dwfr, trwy yr hwn hefyd yr achubwyd ychydig, sef wyth enaid ; ac yn y rhai olaf y llosgir trigolion y byd fel sofl, ac y bedyddir y ddaear â thân, ac hefyd yr achubir rhywfaint" megys trwy dân." Mae dyddiau Noah a dyddiau Mab y Dyn, ynte, yn debyg iawn i'w gilydd; ac y raae dyddiau Noah yn bortreiad o'r lleîll. Pwy nad all weled wrth ddarllen hanes dyddiau Noah, y bydd yn gyffeiyb yn nyddiau Mab y Dyn ? Etto, ychydig iawn sydd yn gallu gweled y tebygolrwydd, er mor debyg y maent i'w gilydd. Ni feddyliodd Crist erioed y buasai y lluoedd a fyddant byw yn nyddiau ei ddyfodiad, yn gallu amgyffred dim ynghylch hyny; canys os byddant yn amgyffred y tebygolrwydd rhwng dyddiau Noah a dyddiau Mab y Dyn, ni fydd iddynt gael eu twyllo, ac o ganlyniad mae yn rhaid eu bod hwythau yn gwbl anwybodus. Dim ond wyth enaid oedd yn credu fod diluw i ddyfod, a dim ond ychydig fydd yn credu yn y dyddiau diweddaf y bydd dyfodiad yr Arglwydd mor agos a disymmwth. Pan edrychom ar sefyllfa y byd Cristionogol yn yr oes hon canfyddwn eu bod yn debyg iawn o ran eu gohgiadau am yr 11