Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TJDGORN SEION, NEU Atxtn )i Aaätt. Rhif. 20.} . MAI 14, 1853. [Cyf. V. PRIODAS NEFOLAIDD. [Parhad o dud. 305.] Mewn cenedl mor liosog ag Israel byddai yn naturiol lawer o filoedd o enghreifftiau trwy eu holl genedlaethau o fod gwyr yn marw yn ddiblant; a byddai hefyd lawer o filoedd o enghreifftiau pan y gofynid gan y gyfraith i'r brawd byw, neu y perthynas agosaf, er yn briod eisoes, i briodi y weddw. Rhaid cofio fod y drefn hon ar bethau yn ei llawn rym, a bod holl Israel yn cael eu gpfyn i'w chadw, yn yr amser yr aeth ein Hiachawdwr a'i apostolion i bregethu yn mysg y genedl hono. Gofyniad—A oedd rhywbeth yn gyssylltiedig â'r Efengyl a dysgeidiaeth Crist a'i apostolion, wedi ei fwriadu ev diddymu y gyfraith o barthed i weddw y marw ? Pan aoth ein Hiachawdwr a'i weision trwy holl ddinasoedd Israel, gan bregethu, bedyddio, a derbyn i'r Eglwys bawb a dderbynient eu tystiolaeth, a ydyw yn debyg iddynt gendemnio y rhai hyny ag oedd wedi priodi amryw wragedd mewn ufydd-dod i'r gyfraith ? Pa heth yn naturiol a ddywedent wrth ddyn a fuasai wedi priodi hanner dwsin o weddwon ei frodyr, y rhai a fuont feirw yn ddiblant? A wnaent hwy eî gondemnio am gadw y gyfraith ? A wrthodent hwy iddo ddyfod i mewn i'r Eglwys Gristionogol, o herwydd iddo fod yn ffyddlawn i'r gyfraith ? A ofynent hwy ganddo i roddi ymaith weddwon y meirw, y rhai y gorfododd y gyfraith ef i'w priodi ? Pe n& íbuasai ef wedi cadw y gyfräith, ai ni chondemnid ef gan y gyf, 20