Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NIiU Rhif. 21.] MAI 21,1853. [Cyf. V. LLUN A MAINTIOLI YSBRYDION. [Allan o'r " Seer."] Anifeiliaid a llysiau, y naill í'el y llall, ydynt gyfansoddedig o ddau o sylweddau tra gwabanol yn eu natur, sef corff ac ysbryd. Y corff sydd gyfansoddedig o amrywiol fathau o ddefnydd,megys oxygen, hydrogen, nitroyen, carbon, lime, &c. Y rhai hyn, wedi eu hymuno neu eu fferyllol gyd-gyssylltu, a flurfiant mewa anifeiliaid gnawd, esgyrn, rhedweliau, gwythienau, giau, gewynau, cyhiriau, croen,a'r holl amrywiol ranau o'r babell anifeilaidd; a'r rhanau hyn wedi eu priodol reoleiddio, a ffurfiant y neillduolion anianol a hynodant y rhywiogaethau. Trwy ymuniad a rheol- eiddiad o'r elfenau uchod, y mae gwreiddiau, boncyffiau, cangen- au, dail, &c, coed a llysiau ereill wedi eu ffurfio. Yn gyssyllt- iedig â'r cyrff corfforol hyn cyfansoddedig o ddefnyddiau garwaf natur, mae defnydd sylweddol arall a elwir ysbryd, purach yn ei natnr, yn meddu rhai priodoliaethau cyfunol â defnyddiau ereill, a sylweddau ereill yn tra rhagori ar ddefnyddiau ereill. Nid yw bywyd llysiau ac anifel yn ddim mwy na llai nag ysbryd llysiau ac anifel. Ysbryd llysiau sydd yr un ddelw a chyffelybrwydd â'i babell, ac o'r un maintioli, oblegid fe leinw bob rhan o honi. Y mae yn abl bodoli raewn ffurf reoleiddiedig cyn ei ddyfodiad i'w dŷ llysieuol, ac hefyd wedi ei ymadawiad o hono. Pe gwnelsid ysbryd pren afalau yn ganfyddadwy pan yn wahanedig oddiwrth ei babell naturioi, ymddangosai yn yr un ffurf, cyffelybrwydd, a jwaintioli â'r pren afalau naturiol; ac felly v mae gydag jsbryd 21