Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

átareri í> #>aínt Rhif. 5.] GORPHENAE 30, 1353. [Cyf. VI. COFNODION CYMMANFA GYFFREDINOL EGLWYS IESU GRIST O SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAE, Â gynnaliwyd yn Ninas y Llyn Ilaíen Fawr, ar y &fed dydd o Ebrill, 1853. [Parhad o dud. 6S.] AIIAETH TU HENURIAD T. P. I>KATT [pARHAd]. Athroniaeth ysbrydol yr oes bresennol a ddygwyd i sylw y byd gan Joseph Smith. A phobl yr Unol Daleithiau a'i rhodd- asant ef i fyny i ferthyrdod, a'i ganlynwyr i dân a chleddyf, ac anrhaith, a charchariad, ac alltudiad i'r mynyddoedd a'r anial- diroedd pellenig hyn, yn unig o herwydd fod cyfrwng i ohebu â'r byd anweledig wedi ei gael allan, trwy ba un y gallai y byw glywed oddiwrth y meirw. Nid cynt y darfu i'r bobl a'r genedl, a fuont felly yn euog o waed gwirion, gwblhau alltud- iad y Saint o'u mysg, nag y dechreuasant fabwysiadu rhai o'r un egwyddorion o athroniaeth ysbrydol, er mewn ystyr gwyr- droedig o'r gair. Golygyddion, llywodraethwyr, athronwyr, offeiriaid, a ehyf- reithwyr, yn gystal â'r bobl gyffredin, a ddechreuasant bleidio yr egwyddor o ymdclyddan â'r meirw, trwy weledigaethau, dewiniaeth, claerweliad, cyfryngau cnocio ac ysgrifenu, &c, &c. Yr athroniaeth ysbrydol hon o ymddyddan â'r meirw, unwaith ar ol ei' sefydlu, trwy lafur, Uudded, dyoddefiadau, a merthyrdod ei sylfaenwyr diweddar; ac yn awr wedi ei chof- 5 [pris Ig.