Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

30RN SE &emi j> ŵ&mt. Ehif. 24.] EHAGFYE 10, 1353. [Cnr. VI. CYN-FODOLDEB DYN. [Parhad o dud. 307.] 107. Wedi proô fod Iesu Grist, neu Gyflawnder Gwirionedd, yn ddiddechreuad, ymofynwn yn nesaf, Pa un a fu yn bod bob amser ddynsoddiaetb.au yu mha rai y preswyliai y cyfiawnder hwn? neu pa un a breswyliodd hyn neu Efe mewn mymrynau anghorffoledig defnydd cyn i unrhyw ddynsoddiaethau gael eu ffurfío ? Mac y gofyniadau rhai'n yn hytrach yn ddyrus i'w hateb. Mae yn dra thebyg, y bu er pob tragywyddoldeb oddeutu yr un fath ag yn bresennol; y bu olyniad diddiwedd o sylweddau, yn gorffoledig ac anghorffoledig, pa rai a ddyr- chafwyd ac a ogoneddwyd, ac a dderbyniasant gyflawnder. Y mac yn hollol debygol, y bu olyniad diddiwedd o fydoedd, ac olyniad diddiwedd o breswylwyr a boblogasant y bydoedd hyny. Os felly, yna nis gallasai fod byd cyntaf, neu ddynsawd cyntaf. Er y caffai pob byd, a phob dynsawd ddechreuad, etto ni fyddai dechreuad i ardderchog gadwyn olyniad neu achydd- iaeth. Gellir egluro hyn, trwy amgyffred bodoliaeth llinellaú uniawn diddiwedd mewn eangder annherfynol; amgyffreder fod pob un o'r llinellau rhai'n i gael eu rhanu neu eu graddoli i rifedi diderfyn o latheni. Gall pawb ár unwaith weled, y byddai dechreuad i bob un o'r Uatheni rhai'n, ond ni fyddai dechreuad i'r olyniad diddiwedd. Felly, yn yr un modd, am barhad dideríÿn; gallwn amgyffred iddo gael ei ranu i olyn- iaeth ddiddiwedd o fynydau; byddai gan bob un o'r mynydau 24 [rnis ìg.