Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGOllN SEIOJS, £>errn m Aat'nt. Rhii. 27.] EHAGFYR 31, 1853. [Cvf. VI. UDGANIAD OLAF YR UDGANWR CYNTAF. Y mae putn mlynedd wedi myned heibio, a chwech cyfrol » Udgorn Seion wedi eu cyhoeddi, er pan ein penodwyd i udganu i genodl y Cyrary. Yr ydym yn awr yn cyflwyno ein swydd i fyny, ac yn udganu am y tro olaf, cyn cychwyn o honom i Ddyffryn y Mynyddoedd, i ymwneyd â gwaith arall. Llawer gwaith yr udganasom wrth ereill, yn enw Duw, " Deu- wch allan o honi hi, fy mhobl i;" yr ydym yn awr yn ufyddhau i'r alwad hono ein hunain, gan roddi yr Udgorn yn nwylaw gwr galluog i udganu yn ein lle. Anturiwn ddweyd i ni udganu yn agos gystal ag y gallem, yn gyferbyniol i'n gwybodaeth a'n medrusrwydd; ond gwyddom y perthynai i ni wendidau a ífaeleddau. Galwyd ni i swydd yn ieuanc, a buom yn ymwneyd â gwaith pwysig, tra yn lled anmhrofiadol, ac yn arnddifad i raddau o gynghorion yr oedranus a'r profìadol. Eia hym- drech a'n hamcan a fuont i wneyd daioni, serch y gallai ein dull o weithredu ar droion, fod yn groes i farn rhai o'n lliosog ddar- llenwyr. Meddyliwn yn awr ein bod wedi dysgu ychydig brofiad; ond buasai yn dda genym pe meddem yr ychydig hwnw pan ddechreuasom ein gwaith. Dysga hyn bawb nad yw profiad i'w brynu heb dalu yn ddrud am dano. Gallwn ddweyd i ni wneyd agos ein goreu hefyd i ddysgu mewn siampl yr hyn a ddysgem trwy yr Udgoen, fel na fyddai ein Uafur yn ofer; canys pwnc mawr y w cael geiriau a gweithredoedd i gyd- dystiolaethu. Heblaw hyny, ymdrechasom i fod yn onest * 27 [pris l^r.