Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TTDGORN SEION, NBU &>mn n Aafot RHrF. 16.] AWST 7, 1852. [Cyf. IV. ANERCHIAD AT Y SAINT. GAN Y LLYWITDD S. W. RICHARDS. Mab Seithfed Epistol Cyffredinol y Brif Lywyddiaeth, yr hwn a gyhoeddwyd yn y rhifyn olaf o'r Star,yn cynnwys cynghor a chyfarwyddyd o'r pwys mwyaf i'r Saint gwasgaredig, ac yr ydym ni yn dymuno galw sylw y rhai ag ydynt yn yr Ynysoedd Pryd- einig tuag ato. Nid oes dim wedi myned allan i'r Saint yn yr oruchwyliaeth hon yn fwy cyfaddas i'w sefyllfa na'r ysgrif y cyfeiriwn ati, ac ni fu pobl Dduw erioed yn fwy parod yn eu teimladau i dderbyn y futh genadwri ddwyfol, nag ydynt ar yr amser presonnol. Gwelwn yn yr Epistol sefyllfa pobl yn cael ei phortreiadu, am y rhai y gelljr dywedyd braidd—ni wyddant pa beth yw eisieu ; pobl ag ydynt yn teimlo gallu Duw yn ea canol, yn cyfranu iddynt, yn ol eu sefyllfa, gytlawnder o fwynhad bendithion nefolaidd a daearol. Mae heddwch a llawndid yn helaeth gyda hwynt; o ganlyniad, gyda phriodoldeb yr adnewyddir yr alwad am i'r Saint ymgasglu adref wrth y degau o filoedd. Mae yr alwad hon yn cael ei chyfeirio yn fwyaf neillduol at y Saint yn yr Ynysoedd Prydeinig, ac y mae yn rhaid iddynt ei hateb. Boddlonir ni eu bod eisoes yn ei hateb mewn teimlad, eithr rhaid i rywbeth mwy nâ hyny gael ei wneuthur; mae yn rhaid iddynt ei hateb mewn gweithred hefyd, mai yn rhaid i'r gwaith ei hun gael ei gyfiawni, onide ni chaiff y Saint yn Mabilon byth m gwaredu o gaethiwed. 10