Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

UDGORN SEION, NBp Rhif. 19.] MEDI 18, 1852. [Cvf. IV. CYHOED DIAD! AT BOBL CYFFINIAO AC YNYSOEDD Y MOR TAWEL, O BOB CENEDL, LLWYTH, AC IAITH. GAN PARLEY P. PRATT, Apostol Iesu Grist. (O'r Argraffiad Awstraliaidd, gan yr Ilen. C. W. Wandell.) GORUCHWYLIAETH NEWrDD. Apostol Iesu Grist, at y bohl sydd ar gyffiniau ac ynysoedd y Mâr Tawel, o bob cenedl, llwyth, ac iaith,—yn anfon anerch:— Hhyngodd bodd i'r Arglwydd Iesu Grist, y Messiah, yr hwn a fu farw ar groes Rufeinig, yn Jerusalem, yn agos i ddeunaw cant a hanner o flynyddoedd yn ol, a'r hwn a adgyfododd oddiwrth y meirw y trydydd dydd; ac ar ol rhoddi gorchymynion i'w Apostolion, a esgynodd i'r nefoedd, o hyny allan i derynasu hyd oni osodo ei holl elynion yn droedfainc i'w draed,—i anfon allan «i angylion yn yr oes bresennol hon o'r byd, i ddadguddio Goriichwyliaeth Newydd; gan adferu felly i'r ddaear gyflawnder a phurdeb yr Efengyl, yr Apostoliaeth, ac Esrlwys y Saint, gyda'i holl fendithion a'i rhoddion gwyrthiol; yr hon Efengyl,wedi ei hadferyd felly, yngh'yd â'i Hapostoliaeth a'i galluoedd, sydd raid ei phregethu i bob llwyth, iaith, pobl, a chenedl, o dan yr .'holl nefoedd, gyda'r arwyddion sydd i ganlyn y rhai a gredant: 19