Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR EISTEDDFOD. GOBPHEMF, 1884. YR EISTEDDFOD. Y PWTLLGORAU. Yn ein Rhifyn o'r blaen orybwyllasom am Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1819 ; yr oedd rhai pethau mewn cysylltiad â hono y gellir eu cymharu, ac erailí y gellir eu cyferbynu â sefyllfa pethau yn yr amser presenol, gyda gradd o ddyddordeb. Ystyrid yr Eisteddfod hono fel yn ffurfio cyfnod newydd ar Lenyddiaeth a Barddoniaeth Cymru. Enwogid hi gan bresenoldeb yr Ar- glwydd Esgob Tyddewi, fel llywydd. Ymddengys fod rhyw gysylltiad anwahanadwy rhwng Esgobion Tyddewi â chynydd gwybodaeth a llenydd- iaeth, er amser Dewi Sant ei hun, hyd yr amser presenol. Yr oedd yr heu sant yn hynod am y gefnogaeth a roddai i bob peth a dueddai i dderchafû. ei genedl mewn gwybodaeth, moesau, a chrefydd. Ar ei ol ef daeth y dysgedig Asser Menevensis, enw yr hwn oedd yn gy- meradwy, nid yn unig yn mhlith ei gydgenedl, ond hefyd yn mhlith dieithr- iaid, ac yn Llys y Brenin. Efe ydoedd athraw Alfred Fawr, ac yr oedd ei ddawn a'i ddysg yn cael eu parchu yn uchel gan y Brenin a'i Lys. Gwedi hyny, cawn i'od Giraldus Cambrensis, y gŵr dysgedicaf yn ei oes, yn rhodio yn yr un llwybrau. Ymdrechodd gael pob gwybodaeth gyraeddadwy ei hun, a chyfarwyddai eraili i wneyd yr un peth. Y mae cefnogi addysg, o gan- lyniad, yn fath o drefdadaeth sydd yn disgyn i ran Esgobion Tyddewi trwy yr holl cesau, ac y mae yr Esgob presenol mor ffyddlon i dracldodiadau ei henafiaid ag un o'r rhai a'i blaenorodd. Yn y flwyddyn 1819, cawn mai Esgob Tyddewi oedd yn llywyddu yn nghyfarfodydd yr Eisteddfod; ac yn Abertawe, yn y flwyddyn 1863, yr oedd y gŵr dysgedig, eydd yn yr un esgobaeth, yn llenwi yr un swydd bwysig. Yr oedd hyn yn anrhydedd mawr i'r ddwy Eisteddfod hyny, ond nid oedd llywyddu yn ngbyfarfodydd y sefydliad addysgiadol hynaf yn Ewrob, yn un iselhad i urddas eu swydd hwythau fel Esgobion. Deallwn oddiwrth gofnodion Eisteddfod Caerfyrddin, fod yr Anrhydeddus Arglwydd Dynefor, er yn absenol, yn bleidiwr selog, ac yn gynorthwywr CYP. I.—RHIP. n. 7