Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÎO ■'w. ADDYSG GAHTREFOL. GA.N "BONUM NOMEN," Sef MR. JOHN JONES GEIFFITHS, BEâUFORT. BüDDUGOL YN ElSTEDDFOD G ENEDLAF.THOL ABERTAWY, 1863. Cînwysiad:—Manteision Addysg Oartrefol—Y Gylch Teuluaidd fel lle i ffurfto y cymeriad—Derbyngarwch y Plentyn— Deddfau yn dylanwadu ar gymeriad pientyn :—Dylanwad Esiampl; Dylanwad Cymdeithasiad neu Argraffiadau boreuol; Dylaniuad Ymarferiad; Dylanwad Cydijmdeimlad—Gallu Rhieni— Cyfrifoldeb Rhieni—Addysg Grefyddol—Gofal Rhieni am eu Merched—■ Moesgarwch— Geirwiredd—lechyd :—Aioyr bur ; Glanweithdra personol; Bwydydd; Ymarferiad y galluoedd corffbrol [exercise]—Llywodraethiad y teulu—Anfon pìant i'r Ysgolddyddiol—Sylwadau Terfynol. MA.NTEISION ADDYSG GAETREFOL. Y mae llawer wedi ei ysgrifenu ar y pwnc dyddorol hwn. Y mae yn destyn neillduol o bwysig, a phe cawsai yr ystyriaeth a ddylasai gaei, buasai gwell golwg ar gymdeithas yn gyffredmol. Nid oes yr un amheuaeth nad diííÿg addysg foreuol dda ydyw prif ffynonell yrhoil anfadrwydd a'r drygioni sydd yn gysylltiedig â chymdeithas. Edrycher ar y gwahaniaeth dirfawr rhwng bywydau dynion wedi caeladdysg foreuol dda, ageiddo y rhai a esgeuluswyd pan yn ieuainc. Canfyddir y rhai cyntaf yn addurniadau yn y cylchoedd y troant ynddynt; ond y mae yr olaf, yn aml, yn felldith a phoen i bawb oddi- amgylch iddynt. Eto, mae yn wir fod rhai wedi cael manteision da yn ûechreuad eu gyrfa yn troi allan yn ddrwg, ac y mae mor wir a hyny, fod thai heb gael esiamplau da o'u blaen yn nechreu eu hoes; yn dyíbd yn fen- dithiol i gymdeithas. Geìlid nodi lluaws o enghreifftiau o byn, ond y rheol ydyw—lle byddo addysg deuluaidd dda, bydd y plant yn tyfu i fynu yn rhinweddol; a lle na byddo addysg deuluaidd dda, bydd y canlyniadau i'w gweled, cyn hir, yn mucheddau annichlynaidd aelodau y teuiu hwnw. Cymaint o wahaniaeth ag sydd rhwng angel a dyn, a rhwng dyn ac anifaií, cyffelyb i hyny yw y gwahaniaeth sydd rhwng dyn wedi ei addysgu a dyn heb ei addysgu. CYF. I;----EHIF. 4. 19