Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EHIF. 7.-CIF. II. LLAWLYFE I DDAELLEN CEEDDOEIAETH, Gan " BETHMA," sef ME. E. EOBEETS, LIVBEPOOL. Buddugol yn Eisteddfod Abertawe 1868, GAIE O EGLUEHAD. Mewn bwthyn byehân wrth odreu un o fynyddoedd Cymru, y mae yn trigo ŵr a gwraig a dau o blant. Chwarelwr ydyw y gŵr—dyn call iawn, un o'r lluaws dynion hyny sydd yn anrhydedd i ddosbarth gweithiol ein cenedl. Y mae wedi darllen ac astudio llawer, ac y mae nid yn unig yn darllen llyfrau, ond yn arfer meddwl uwch eu penau, eu hefrydu yn drwyadl, nes eu llwyr ddeall. Oherwydd hyny y mae ganddo olygiadau clir ar y materion hyny y mae wedi eu gwneud yn destynau ei efrydiaethau. Ond y mae ganddo, heblaw hyny, ddawn arbenig i drosglwyddo y wybodaeth y mae efe, trwy lafur mawr, wedi ei henill, mewn dull eglur a digamgymeriad i ereill. Y mae Dafydd (oblegid dyna enw y dyn), yn mysg cangenau ereill o wybodaeth, wedi talu gryn sylw i Gerddoriaeth—y mae yn deall Cerddoriaeth fel gwyddor yn dda, a hefyd yn gallu ei hymarfer yn rhagorol fel celfyddyd. Daeíh i'r penderfyniad, yn ddiweddar, i ddysgu egwyddorion cyntaf Cerddoriaeth i'w ddau blentyn, Elen a John. Mae Elen tua phymtheg oed, a John tua thair-ar-ddeg oed. ^ae dyn sydd yn lletya gyda Dafydd, ac sydd hefyd yn gweithio yn yr un chwarel ag ef, sef Owain Prydderch, wedi cael eaniatâd i wrando ar wersi y tad i'w blant: ac wrth gwrs, y mae'r fam, yr hon sydd yn wraig landeg heinif, tebycach i chwaer henaf Elen nag i'w mam, yn teimlo dyddordeb mawr yn y gwersi, ac yn distaw benderfynu elwa arnynt. Gan fod yn resyn i'r Dywysogaeth golli y cyfryw wersi dy- CYF. II. —KXÍIF. 7. 13