Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y*COFIADUR:*' CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD laLAasrFAIHCAEHEINION» CYFROL I. RHIF 4. TACHWEDD, RHAGFYR A IONAWR, 1894-95. ÖYFA(EOHIAQ (BLYJTYQQOL Y OYJtAQLEQQ. YN yr " Eurgrawn" am fìs Hydref ymddengys cyfieithiad o Gyfarchiad Blynyddol y Gynadledd. Buasai yn llawen genym pe cawsai yr " Eurgrawn " hybarch dderbyniad mwy cyff- redinol gan ein darllenwyr. Teimlwn yn dra sier y byddent ar eu mantais o wneyd hyny. Y mae yn haeddu ein cefnogaeth, ac yn deilwng iawn o hono. Er mwyn y rhai nad ydynt yn derbyn yr " Eurgrawn " ac felly na chant gyfleusdra i'w gweled o bosibl, yr ydym yn rhoddi yma dalfyriad o'r Cyfarchiad, gan hyderu y caiff ddarlleniad gofalus ac ystyriaeth fanwl gan ein holl ddarllenwyr, yn arbenig felly ein swyddogion a'n haelodau :— Anwyl frodyr.—Unwaith eto y mae genym y fraint a'r hyfrydwch o'ch anerch. " Pob peth sydd er eich mwyn chwi." Y weinidog- aeth a gyflawnwn, yr Efengyl a bregethwn, pob peth sydd er mwyn eich amddiffyn rhag peryglon ysbrydol ac i'ch adeiladu yn ffydd a chariad Iesu Grist. Mewn cwblhau yr amcan mawr i ba uny codwydyr Eglwys Wesleyaidd, yr ydych chwi a ninau yn un. AojjB nesaf at gymeradwyaeth ein Meistr, eich ffyddlondeb a'ch carad chwi ydynt ein gwobr werthfawrocaf a'n hanogaeth gryfaf. Yr ydym yn sylwi gyda diolchgarwch ar dôn gynyddol o hyder a gobaith yn ein cydgyfeillach â'n gilydd, ac yn yr ysbryd sydd wedi nodweddu holl eisteddiadau a cyfarfodydd cyhoeddus y Gynadledd. Wrth adolygu gwaith y flwyddyn, yr ydym yn dra diolchgar i Dduw yr Hwn "a barodd i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi," fel, braidd yn mhob lle y mae ei air wedi "rhedeg a chael gogonedd." Er y wasgfa a'r anhawsderau, y mae llawer o honoch wedi dyoddef oddiwrthynt yn ystód y flwyddyn. Y mae effeithiol-