Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y*COFIADUR:* CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLOHDAITH WESLEYAIDD LLANPAIRGÍABRBINION. CYFROL 4, RHIF 3. AWST, MEDI AO HYDREF, 1897. Y QIWEQQA(B J£A UdtlCE EYAJTS, Ysw., OAELLEWELYJ7. {Parhad tudalen 12). )AE yr hanes a rydd Mr. Evans am ei argyhoeddiad a'i ddychweliad yn cyfleu i ni syniad lled glir am rai o brif nodweddion ei natur, Yr oedd yn ddyn ag oedd yn llwyr ymroddedig i'r hyn oedd yn amcan ganddo ar y pryd. Pan yr oedd pleserau gwag a "mwyniant pechod" yn nôd i ymgyrhaedd ato, taflai ei holl enaid i hyny. Dan ymweliadau Ysbryd Duw yr oedd ei argyhoeddiad yn ddwys, a'i drallod a'i bryder yn fawr. Pan dorwyd y ddadl yr oedd ei ddychweliad yn drwyadl, a'i ymgysegriad i Dduw a'i waith yn llwyr a hollol. Nid dyn hanerog oedd mewn dim. Ni fynai o gwbl â'r installment system ; yr oedd yn ddyn o ddifrif gydâ phob peth, a pha beth bynag yr ymaflaiei law ynddo, gwnai a'i holl egni. Nis gwyddom ond ychydig iawn am ei gysylltiad â'r achos yn Llundain, ni bu yno ond ychydig o fisoedd wedi ei ddychweliad at grefydd ; ond mae yn amlwg fod ei galon wedi parhau yn llawn o sêl a chariad, ac mae genym le i gasglu na fu efe yn "segur na diffrwyth" o ran ei ymarferion. Mewn llythyr at ei chwaer, Mrs. Jones (" Y Ffinant," y pryd hwnw), dywed fel y canlyn : —" Ẅhen I wrote to you last my distress may better be imagined than described, but, praise be God, the scene is now altered, and I am enabled through faith to look to Jesus as my •all in all, and through him to God as my Father; and I, his adopted child, and to the Holy Ghost as my sanctifier. I exper- ience the love of the blessed Trinity, and hope and trust to be