Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y*COFIADUR:*' CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD iLLANFAIHCAEHEINION. CYFROL 5. RHIF 3. AWST, MEDI A HYDREF, 1898. •CO0000000OOOOOOCOOOO00000000000OOOOOOOOOOOOOOOO0000ooooooooooooooo OAJ£YJ£QQ YOIA QA U OEEFYQQ WY(B A(B QQYQQ AO YJ7 JTBY Y(B . A(BGLWYQQ. Barchedig Olygydd. -RTH gamymddygiadau crefyddwyr yn y cysylltiad hwn, y golygir, nid y mil a mwy o ffaeleddau a gwendidau a berthyn i grefyddwyr yn gyffredinol, " Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro; " ond ymddygiadau proffeswyr crefydd sydd yn byw yn hollol anheilwng o'r Efengyl. Nis gellir disgwyl i'r Eglwys fod yn berffaith. Y mae profedigaethau yn aml, lluosog, a chryfìon, "a'rcnawd sydd wan." Er hyny, dyledswydd pob crefyddwr yw, ymgais at berffeithrwydd, a chyfiwyno ei hun " yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw." Cyrchu at y nôd am gamp uchel alwedigaeth Duw yn Nghrist Iesu. Eto, treulia llawer o broffeswyr crefydd y dyddiau hyn,— Ddydd Sanctaidd yr Arglwydd fel pe bae yn eiddo iddynt eu hunain, ac fel pe na buasai hawl gan neb i ofyn iddynt, paham yr ant o fan i fan i weled cyfeillion a pherthynasau, ac i ym- bleseru, fel pe na buasai un diwrnod arall i'w gael at y cyfryw bwrpas ar hyd y flwyddyn. Yn ngwyneb ymddygiadau o'r fath, teimla gwrandawyr duedd i ymesgusodi a chadw draw, a hyny o herwydd ymddygiadau rhai a broffesant eu bod yn credu ac yn byw y Gwirionedd.