Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*/Y * COFIADUR:* CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD LlaANFAIHCAEHEINIOH. CYF, X. RHIF 3. flüast, Cfîedi a Tíydfef, 1903. Y Diweddar Mr. EDWARD MORGAN, Meifod. {Parhad.) WEDI ymsefydlu yn Meifod y tro hwn, gafaelodd Mr. Morgan o ddifrif yn y gwaith mawr, yn ogystal ag yn nghoruchwylion y byd presenol. Yr oedd yr achos yn llewyrchus iawn y pryd hwnw. " Llanw " y Diwyg- iad oedd wedi bod yn 1859 a '60, heb ond dechreu cilio.—Yr Ysgol Sul yn flodeuog, y Cyfarfod Gweddio yn boblogaidd, a'r Seiat yn atdyniad nerthol—fel yr oedd yma gyfiawnder o scope i'w alluoedd i gael ymarferiad llawn. Ond nid dyn i wthio ei hunan i'r ffrynt, ar draws eraill oedd wedi bod yn Uenwi y safie- oedd pwysicaf yn yr Eglwys yn deilwng ac yn anrhydeddus am lawer o fiynyddoedd oedd gwrthddrych y nodiadau hyn, ac o herwydd hyny ni fu yn amlwg iawn gýdag unrhyw ran o'r gwaith am rai blynyddoedd. Ond fel yr oedd yr hen frodyr, y naill ar ol y lla.ll, yn diosg eu mantelli, ac yn dringo i " Gerbyd Israel," yr oedd rhywfaint o'u hysbryd megys yn disgyn ar, ac yn ymddadblygu yn Mr. Morgan, nes y daeth i fod, er's llawer blwyddyn bellach yn brif oruchwyliwr "amryw ras Duw" yn ein plith. Nid wyf yn meddwl dyweyd ond ychydig yn rhagor am dano fy hunan. Yr oeddwn mor hoff o hono, ac yr oedd cysylltiadau mor agos rhyngom, fel y mae arnaf ofn gwyro i gyfeiriad or-ganmoliaeth, ac am hyny gorphenir hyn o nodiadau trwy ddifyniadau o lythyrau ac ysgrifau a dderbyniais oddiwrth gyfeill- ion anwyl, y rhai oeddynt wedi cael manteision arbenig i'w adnabod, ac i ffurfio barn ddiduedd am dano. Maddeued y cyfeillion hyny i mi am y rhyddid yr wyf yn gymeryd i argraffu rhai o'r nodiadau heb eu caniatad. Yn mhlith y rhai yna mae y llythyr canlynol:—