Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

■*Y ^COgŴŴUR:* CYLCHGRAWN CHWARTEROL ' CYLCHDAITH WESLEYAIDD ^ANFAIRCAEREINION. CYF, XII. RHIF 2. CCìm, OlehôfiG a Gotfphenaf, 1905. I.....yr''ir''ir,'«r»''«rir''ir''W,,,P''^^ Y Diwygiad yn ei gysylltiad a Llanfair- caereinion. Ardaloedd ar eu dwylyn;—Beth yw hyn ? Gtobaith oes, dilychwyn;— Eneidiau yn troi, a Duw yn trin, Agoriad calon Gwerin. Eifion Wyn. UN ieuanc ac anfedrus wyf, ond ar gais taer ymdrechaf roddi gwybod i ddarllenwyr Y Cofiadur, rhai, beth bynag o'r pethau a digwydd yma, a pheth a 'feddyliem am danynt. Pan yn ceisio meddwl, credaf fod yn rhaid i ni fyned yn ol haner blwyddyn, ië, yn mhellach os gwelwch yn dda, er coffa am y gweddio taer fu am fiynyddoedd lawer am adfywiad yn ein plith, a chael gweled rhywbeth tebyg a welodd yr hen dadau yn " '59 ;" cofiwn drwy hyny am " y cadw drws yn agored " wnaeth y ffyddloniaid hefyd. " Bu Seion wan yn griddfan dan y groes, Yn disgwyl gwawr, ar lawr dan lawer loes." Oni fu pethau fel yna ? Do, siwr. Pan gofiwn hyny, canfyddwn ateb i'r cwestiwn :—" Beth yw hyn ? sef,—Duw yn ateb gweddi. Mae hyn yn d'od â ni i'r man y ceisiwn roddi ar ddeall beth ganfyddwn ni pan mae ein Duw yn ateb gweddîau. Cofiaf yn dda, yn ystod yr haf diweddaf, i un yn yr Eglwys yma, roddi datganiad i'w ddyheuad am Gyfarfodydd Neill- duol o Bregethu yn ein plith, a meddyliwyd am hyny, nes d'od i'.r penderfyniad i ofyn i bregethwr enwog dd'od yma, a phregethu bob nos am wythnos (nid oedd y newyddion da o'r South wedi cyrhaedd pryd hyn, cofier). Cyn dyfodiad y pre- gethwr cafwyd dwy wythnos o gyfarfodydd gweddío am íwydd- iant y gwaith. Yr oedd rhywbeth rhyfedd yn ymddangos i ni