Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y * COFIÄDUR:*- CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD LLtANFAIRCABRSINION. CYF, XIII. RHIF 3. Äcast, mcdi a fiydfeî, 1906. Seiat Fawr Brymbo. CYFARFOD GOGONEDDUS. Profìadau gan bob Gradd, Rhyw ac Oedran.—Y Llanw Mawr yn ysgubo pob peth o'i flaen. Gan y Parch. Charles Jones. YN fuan wedi wyth o'r gloch y boreu dydd Iau diweddaf, dilyfa'r bobl tua Bethel, ein Capel hardd ac eang yn Mrymbo. Dechreuwyd ar unwaith ganu a gweddio, fel erbyn amser dechreu y Seiat, yr oedd y Capel braf wedi ei orlenwi. Arweinwyd gan y Parch. A. W. Davies, a dechreuodd Mr. Thomas Thomas, Manchester, drwy weddi effeithiol. Pen- odwyd brodyr i siarad ar gyfer rhan o'r Seiat, a threfnwyd i'r rhan ddiweddaf fod yn agored. Galwyd yn gyntaf ar y Parch. T. N. Roberts i siarad ar " Berthynas y Diwygiad â Phryfiad Crefyddol." Teimlai mai gwers fawr y Diwygiad ydoedd y pwys newydd a roddwyd ar brofiad personol o grefydd. Braint fawr ydoedd perthyn i enwad oedd wedi arfer pwysleisio hyn, ond rhoddodd y Diwygiad bwysau newydd i ninau. Mae'r Seiat yn awr wedi d'od i'w lle. Nid pwnc, ond profiad sydd i fod yn y Seiat. Mae'n dda iawn cael " pwnc" os na bydd profiad, pe bai i ddim ond i gadw pobl dda rhag rhedeg eu gilydd i lawr. Rhoddodd y Diwygiad symbyliad newydd i bobl dduwiol. Yr oedd llawer yn ein Heglwysi â phrofiad ganddynt, ond mae ganddynt hwythau loewach profiad a phereiddiach cân erbyn heddyw. Yr oedd llawer hefyd yn ein Heglwysi yn hiraethu am brofiad, ond methu ei gael; ond cawsant hwythau eu diwallu erbyn heddyw. Ond yr oedd Uawer iawn, yn enwedig o bobl ieuainc, heb sylweddoli