Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Y •> COFIADUR:*- OYLCHGRAWN CHWARTEROL CTLCHDAITH WESLETAIDD CYF, XIV. RHIF 2. CCìexí, CTìehefin a Gofphenaf, 1907. PilrV<iitr^r^'i||ir^ir'w|,|Hiiiriw'''|iii'l'l<in>''''ii|>,|Hii| '»'' ni» 'ni.....ni""iii......iii"'iiii"'iiii"|i»i.....iii'-mnini......iii'-'hi.....iii'.....ii'"'[|ii'-'hii"'iii'"'iii'"'iii'','iii»"iii'''iiii.....mi"inii'-ii»i'"w,Hi Y diweddar Mr, GRIFFITH GRIFFITHS, Bronfedw. *AN' 'yn addaw parotoi Cofiant i'm hanwyl gyfaill ni fedd- yliais y byddai y gorchwyl yn un mor anhawdd. Dechreuais amryw weithiau, ond deuai rhyw dòn o -• - brudd-der a hiraeth drosof nes dyrysu fy nghynlluniau a chwalu fy syniadau, a pheri i mi lawer gwaith roddi yr ysgrifbin heibio am y tro. Ond bellach rhaid i mi geisio gorchfygu fy nheimladau, a gwneyd ymdrech i roddi ffurf a gwedd syml a chryno ar rhai o'r ffeithiau ac amgylchiadau, yr ymarferion a'r dylanwadau, a fuont mewn cyfuniant yn gwneyd y bywyd defn- yddiol a'r cymeriad prydferth sydd wedi gadael perarogl mor ddymunol yn ein bro. Gyda gwyleidd-dra yr wyf yn gwneuthur hyny, dan deimlad o anghymwysder i wneyd cyfiawnder â'r gwrthddrych, yn neillduol felly am mae y deng mlynedd y bu yn byw yn Mronfedw—deng mlynedd diweddaf ei oes-—yn unig, ydyw ystod fy nghydnabydd- iaeth bersonol i âg ef. Ganwyd ef yn Llangynog, Chwefror gfed, 1857. Felly yr oedd yn ddyn 40 mlwydd oed pan adwaenais i ef gyntaf, ac mae oddeutu haner y cyfnod yna o'i hanes yn ddieithr iawn i mi eto—dim ond scraps a gyflëwyd i mi mewn crybwyllion ac awgrymiadau yn awr ac eilwaith ganddo am bethau a gymerodd le, a phobl y daeth efe i gyffyrddiad â hwy, ac eglwysi y bu yn gwneyd ei gartref ynddynt yn Llangynog, Llanwddyn, Mountain Ash, Middlesborough, Yorkshire, Dolgelley, &c. Nid dyn cyffredin oedd Griffiths fel gweithiwr; nid oedd yn foddlawn ar fod yn ddim ond megys peiriant mewn gwaith; yr oedd ganddo actẁe brain, a rhoddai ei alluoedd meddyliol yn ei waith, a gwnaeth hyny ef yn shilled worhman; a thrwy ei fod gyda hyny yn ddyn sobr, gofalus, cydwybodol, a ffyddlon, dringodd i fod yn foreman ac yn arolygwr ar publìc works mewn amryw fanau. Ond amlwg yw,1 lle bynag yr elai, cadwai ei sêl dros ei wlad a'i