Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

|1 •> GOFIADUR:-^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLETAIDD ^laANFAIRCAEREIHION. CYF. XV. RHIF 4. Taehcaedd, IRhagfyt» ae Ionamti, 1908^9. GAIR AT YR EGLWYSI. YWEIRNOD Ioan, wrth anerch Eglwysi Asia, yw ein heiddo ninau wrth ysgrifenu am y waith gyntaf i'r \rxji Cofiadur. Hanes fy hen Gylchdeithiau fydd hanes hon ^sr mewn llawer cyfeiriad. Bydd yma lawer o gyfnewid- iadau mewn Eglwysi a theuluoedd cyn daw ein tymor gyda'n gilydd i ben, a dywedant mewn gwahanol foddau ar ein profiad crefyddol. Gofalwn na chaiff amgylchiadau o ba natur bynag y byddont, lesgau ein syniad am Dduw, na'n gwneyd yn anffydd- lon i Grist. Ein hangen fawr, os nad fwyaf a dyfnaf, ar ddechreu ein tymor ydyw, " Cael ein calonau a'n dychymyg wedi eu llenwi â syniad uchel am gymeriad ac amcanion Duw fel y maent wedi eu datguddio i ni yn Iesu Grist." Dibyna ffyddlondeb ar ffydd, a chryfheir ffydd gan ei gwrthrych. Am hyny, meddyginiaeth at amheuaeth a digalondid ydy w ymgodi o'n synfyfyrdod ein hunain, a meddwl am fawredd gallu Duw, yr Hwn sydd tu ol, odditan, a thrwy bob peth, a'r Duw hwnw yn Dad i ni, wedi ei egluro yn Ei ogoniant yn Iesu Grist. Yr Iesu hwn sydd wedi dwyn cyfoeth y Duwdod i'n gafael. Y Person yma yn unig sydd yn deilwng o'n molawd. Dyma ein cyweirnod, ynte. Gadewch i ni ei gyd- daro " Iddo Ef yr hwn a'n carodd, ac a'n golchodd oddiwrth ein pechodau yn ei waed ei hun. Ac a'n gwnaeth ni yn frenhin- oedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad Ef. Iddo Ef y byddo y gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd, Amen." Syniad uchel am Iesu a'n galluoga ni i anghofio ein holl bryderon, tra y gosodwn Ef yn uwchaf ac yn benaf o bawb gerbron ein meddyliau, deuwn yn fuan i demlo bod yna graig tan ein traed, a nodweddir ein bywyd â chysondeb ac arucheledd. Nis gwn beth fydd hanes y dyfodol, chwi a minau, ond yn sicr gallwn ddisgwyl treialon, profedigaethau, a themtasiynau. A phwy sydd ddigon i gyfarfod