Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y * COFIADUR:* CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD kLiANFAIKeAEKEINIQN. CYF, XVI. RHIF 3. Rcast, Oledi a fìydnef, 1909. Y Beibl yng Ngoleuni Beirniadaeth Ddiweddar. RTH ddarllen hanes yr Eglwys Gristionogol, cawn f/\ ei fod yn ffaith y nodir pob oes a chyfnod gan yr tíé amlygrwydd a roddir i ryw athrawiaeth neillduol. Ifiiih Yn y bedwaredd ganrif cawn mai yr athrawiaeth gafodd sylw cynghorau yr oes oedd athrawiaeth fawr y Drindod a Duwdod Crist. Yn yr unfed-ganrif-ar-ddeg rhoddwyd ffurf i athrawiaeth yr Iawn gan Archesgob Anselm ac eraill. Athrawiaeth fawr y Diwygiad Protestanaidd oedd Cyfiawnhad trwy Ffydd. Athrawiaeth y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeu- nawfed ganrif oedd yr athrawiaeth o Sancteiddhad a Gwirionedd- olrwydd Profiad Crefyddol yn ol dysgeidiaeth Wesley ac eraill. Pe gofynid pa athrawiaeth sydd yn cael amlygrwydd yn ein hoes a'n cenhedlaeth ni, credaf mai yr atebiad íyddai—" Yr athraw- iaeth o Ddwyfol Ysprydoliaeth ac o awdurdod y Beibl." Ni fu cyfnod erioed pryd yr ysgrifenid cymaint ar, ac ynghylch y Beibl. Y mae y wasg yn parhau i dywallt allan lenyddiaeth Feiblaidd o bob math yn y ffurf o Esboniadau, Geiriaduron, a llyfrau eraill a'u hamcan i egluro y Beibl. Un o nodweddion eraill ein cenhedlaeth ydyw, yspryd gwydd- onol yr oes—yr yspryd yna sydd yn anfoddlon i gymeryd pethau yn ganiataol, ac i dderbyn syniadau a thraddodiadau henafol heb yn gyntaf chwilio i mewn i'w seiliau ac olrhain eu gwirionedd. Yn ystod y ganrif ddiweddaf, y mae y gwyddoniaethau Daeareg, Seryddiaeth, &c, wedi agor bydoedd newyddion i'w cyfaneddu. Y maent wedi achosi chwyldroad yn ein syniad am hanes gor- phenol ein byd, am darddiad dyn a dull yr Anfeidrol o greu. Nid ydyw yr yspryd gwyddonol wedi peri mwy o chwyldroad mewn dim nag yn ein syniadau am y Beibl a'i gynwysiad. Y .--;