Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•*Y •• COFIADUR:*. CYLCHGRAWN CHWARTEROL OYLCHDAITH WESLEYAIDD XdIîiìx!NÍ!c AIHCA3âH3äIjNlO.N\ CYF, XVII. RHIF 4. Taehcaedd, t^hagfyt» ac Ionacat», 1910^11. "Adgof uwch Anghof." Gan Evan Thomas. 'WELAIS erthygl, dro yn ol, yn y *' Methodist Recorder," a ysgrifenwyd fel atebiad i ofyniad o nodwedd amheuol a roddwyd gan rywun tebyg i hyn,—"A ydyw yr hyn effeithir gan yr achosion bychain, gwledig, yn cyfateb i'r draul rhoddir arnynt mewn arian, amser, a thalent?" Gwnaeth ei ddarllen gyfeirio fy meddwl at yr eglwys fechan, gwledig, ag yr wyf fì wedi cael y fraint o fod yn aelod ohoni am dros haner canrif; ac wrth adgofio y bobl a adwaënais ynddi, y gwaith a wnaed ganddi, y gallu yn erbyn pechod, ac o blaid rhinwedd mae wedi bod yn yr ardal; ac, yn enwedíg, y defnydd gwnaed ohoni gan yr Ysbryd Glân i argyhoeddi, i ddychwelyd, i hyfforddi mewn cyfíawnder, i gysuro ac i sancteiddio, ugeiniau o'r rhai sydd yn mhlith y disglaer lu, erbyn hyn, nid oedd petrusder yn fy meddwl i nad oedd y balance sheet yn satisfactory. Yr oedd chwech o chwiorydd a fuont yn aelodau o'r eglwys hon yn nechreuad eu gyrfa, wedi " gadael yr anial yn lân," o fewn yspaid o ddeunaw mis i'w gilydd yn 1908, a 1909, ac wrth eu hadgofio daeth i fy meddwl mai buddiol fyddai gair byr am bob un ohonynt yn y Cofiadur. Y cyntaf ohonynt a alwyd i bresenoldeb y Meistr oedd Mrs. Martha Parlett, yr hon a fu farw yn sydyn iawn yn Llundain, Ebrill 28ain," 1908. Merch ydoedd i'r diweddar Mr. a Mrs. Grifnths, gynt o'r Tycoch, ac wedi hynny Tanyfron, Meifod. Bu ei rhieni yn aelodau ffyddlon a gwéithgar yn Meifod am lawer o fiynyddoedd. Yr oedd eu tŷ yn un o gartreíì y pregethwyr, a'u caredigrwydd yn ymestyn i lawer cyfeiriad. Bu iddynt un-ar-ddeg 0 blant; Martha oedd y ganol ohonynt. Yr wyf yn cofio yn dda