Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. rhif. 25. MAWRTH, 1862. cyf. III. AIL GANRIF Y DDWY PIL, A BEDYDDWYR CYMMRU. Dau can mlynedd i'r flwyddyn hon (Awst 24, 1662), y taflwyd allan, trwy Act yr Unffurfiaeth, o'r Eglwys Sefyd- ledig, DDWY fil o'r offeiriaid mwyaf duwiol, dysgedig, talentog, a llafurus, a esgynent eu pwlpidau; ac y dystawwyd niferi o bregethwyr ereill ag oeddynt fel gwahanol sêr, yma a thraw, yn cyfeirio y bobl at y Ceidwad. Darfu i'r DDWY fil aberthu llawer er mwyn peidio aberthu cydwybod, trwy beidio cydymffurfio â deddf yr Unffurfiaeth. Mae Annghyd- ffurfwyr Lloegr a Chymmru yn dangos eu bod yn teimlo a chydnabod gwerth y weithred hòno o'u heiddo, yn nghyd â'r dylanwad a gafodd, mae yn gael, ac a gâ hyd ddiwedd amser ar Annghydffurfiaeth y deyrnas hon yn neillduoì, a theyrnas- oedd ereill hefyd. Mae holl Ymneillduwgr y deyrnas yn penderfynu gwneyd rhyw beth ar ben y ddau-ganfed flwyddyn, yn gôfam danynt, ac o barch i'r egwyddor a ddangosasant—ie, yr holl enwadau a elwir yn Ymneillduwyr ond y Wesleyaid: ni wnant hwy ond ychydig neu ddim. Anhawdd deall beth yw y bobl hyn! Rhyw fongneliaid ydynt. Ceisiant fod yn bob peth, a chyrhaeddant fod yn ddim. Ceisiasant wneyd rhwyd i ddal pob peth, ond wrth ei gwneyd mor helaeth o'r defnydd oedd ganddynt, aeth y rhwyllau mor fawrion fel nad yw yn dal yr un egwyddor yn werth sôn am dani. .ÎTid oes genyf eilwaith fawr o olwg ar " Bwyllgor Unedig Central" Llundain, yn yr hwn mae Bedyddwyr Lloegr wedi uno â'r Annibynwyr ac ereill, i wneyd coffadwriaeth am y DDWY fil.