Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIEDYDD. bhip. 29. GORPHENAF, 1862. cyf. III. CYFARFOD HYNOD YJST BERLIN. Berlin yw prif ddinas Prwsia, fel mae Llundain yn brif ddinas Lloegr. Oynnaliodd y Bedyddwyr Gyfarfod dyddorol iawn yn y lle hwn, ar y 14eg o fis Mai diweddaf, sef, y dydd yr oedd yr eglwys Fedyddiadol yn Berlin yn bum mlwydd ar ugain oed ; oblegid ar y dydd hwnw yn y flwyddyn 1837, y corffolwyd yr eglwys, yn cynnwys saith o aelodau, ac y gwein- yddwyd yno swper yr Arglwydd am y waith gyntaf, gan dad Bedyddwyr diweddar Germany, y Parch. I. G. Onclcen, Hamburg. Ystyrid y cwrdd yn mis Mai diweddaf, yn fath o Jubili, pan oedd yr eglwys yn ei chwarter can' mlwydd oed. Yr oedd y cwrdd ryw beth yn tebygu i Gymmanfa y Bed- yddwyr yn Nghymmru, neu yn hytrach yn Lloegr. Mae achos dechreuad a chynnydd yr achos Bedyddiedig yn Berlin, yn deilwng iawn o sylw. Nid oedd un Bedyddiwr proífesedig yn Berlin, 26 mlynedd yn ol. Ond yn yr amser hwnw, yr oedd Mr. G. W. Lehmann, yn nghyd â rhai Crist- ionogion ereill, y rhai oeddynt yn byw yn oíh Duw, mewn parch i'w air, ac yn barod i aberthu pob peth, a chodi pob croes, er mwyn cael crefydd gyflawn yn ol y Beibl,—yr oeddynt yn amheu fod cyfansoddiad yr Eglwys Wladol yn Ysgrythyrol, ac nid hir y buont cyn dyfod i benderfyniad diysgog nad Eg- lwys Wladol oedd yr Eglwys yr oedd Crist yn Ben iddi. Ac yr oeddynt yn dra awyddus am gael eglwys yn unol yn ei chyfansoddiad â'r eglwysi Cristionogol cyntaf. O'r argyhoedd- iad â'r teimlad hwn, y cododd i fyny yr " Old Lutheran siic- cession " yr i,Irmngites" a'r rhai a elwir y "Separatists " yn Pomerania, &c. Ar ol ymrysoniad meddyliol, ymchwiliadau pwyllog, ac argyhoeddiad trylwyr, anfonodd Mr. Lehmànn am